M. C. Escher: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Newid enw'r wybodlen using AWB
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
Roedd '''Maurits Cornelius Escher''' ([[17 Mehefin]] [[1898]] – [[27 Mawrth]] [[1972]]), neu '''M. C. Escher''' yn arlunydd graffigol o'r Iseldiroedd a oedd yn adnabyddus am weithiau ar ffurf torluniau pren, lithograffiau a mezzotints.
 
==Bywyd cynnar ac addysg==
Llinell 15:
Defnyddiai Escher wrthrychau a thechnegau mathemategol i archwilio syniadau ynghylch annherfynoldeb, adlewyrchiad, cymesuredd a pherspectif. Er i Escher ddweud nad oedd ganddo allu mathemategol, roedd mewn cysylltiad â'r mathemategwyr George Polya, Roger Penrose, Harold Coxeter a'r crystalograffydd Friedrich Haag.
 
Yn gynnar yn ei yrfa, cafodd Escher ei ysbrydoli gan fyd natur, ac astudiodd drychfilod, tirluniau a phlanhigion. Yn 1922, teithiodd i rannau o Eidal a Sbaen, a thrwy astudio pensaernïaeth, datblygodd ddiddordeb mewn mathemateg. Bu'n byw yn Rhufain rhwng 1923 a 1935. Yno y cyfarfu ei wraig Jetta Umiker.
 
Symudodd Escher a'i deulu i Château-d'Œx yn y Swistir yn 1935, ac yna i Uccle ar gyrion Brwsel yng Ngwlad Belg yn 1937. Bu raid symud eto yn 1941 oherwydd y Rhyfel, y tro hwn i Baarn yn yr Iseldiroedd. Creodd rai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn ystod y cyfnod hwnnw rhwng 1941 a 1970.
 
Cafodd Escher ei symud i gartref preswyl yn Laren yn 1970, ac yno y bu farw yn 73 oed ar 27 Mawrth 1972. Mae wedi'i gladdu yn y fynwent newydd yn Baarn.
Llinell 24:
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Eescher, M.C.}}
[[Categori:Genedigaethau 1898]]