Rhyngrwyd pethau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
B Symudwyd y dudalen Y rhyngrwyd pethau i Rhyngrwyd pethau gan Llusiduonbach dros y ddolen ailgyfeirio: Dyma'r term mwyaf cyffredin.
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
System lle mae dyfeisiau cyfrifiadurol, peiriannau mecanyddol a digidol, gwrthrychau, anifeiliaid neu bobl i gyd yn cydberthyn yw '''rhyngrwyd pethau<ref>http://termau.cymru/#Rhyngrwyd%20Pethau&sln=cy</ref>''' neu '''ryngrwyd y pethau'''. Mae gan y pethau hyn ddynodwyr unigryw ([[Saesneg]]: ''unique identifiers'', ''UIDs'') a'r gallu i drosglwyddo data dros rwydwaith heb angen rhyngweithio rhwng person a pherson neu berson a chyfrifiadur.<ref name="Linux Things2">{{cite web|url=https://internetofthingsagenda.techtarget.com/definition/Internet-of-Things-IoT|title=internet of things (IoT)|last=Rouse|first=Margaret|date=2019|website=IOT Agenda|archive-url=|archive-date=|url-status=|access-date=14 August 2019}}</ref><ref name="Linux 21OSP2">{{cite web|url=http://www.linux.com/NEWS/21-OPEN-SOURCE-PROJECTS-IOT|title=21 Open Source Projects for IoT|first=Eric|last=Brown|website=Linux.com|date=20 September 2016|access-date=23 October 2016}}</ref><ref name="ITU2">{{cite web|url=http://www.itu.int/en/ITU-T/gsi/iot/Pages/default.aspx|title=Internet of Things Global Standards Initiative|work=ITU|access-date=26 June 2015}}</ref><ref>{{cite web|url=http://data.london.gov.uk/blog/the-trouble-with-the-internet-of-things/|title=The Trouble with the Internet of Things|last1=Hendricks|first1=Drew|website=London Datastore|publisher=Greater London Authority|access-date=10 August 2015}}</ref>
 
Mae diffiniad '''rhyngrwyd pethau''' wedi esblygu ers i wahanol dechnolegau, dadansoddeg amser real, dysgu gan beiriannau, synwyryddion nwyddau a systemau wedi'u mewnblannu gydfeirio. Mae meysydd traddodiadol rhwydweithiau synwyryddion di-wifr, awtomatiaeth (gan gynnwys awtomatiaeth mewn cartrefi ac adeiladau eraill), systemau wedi'u mewnblannu, systemau rheoli ac eraill wedi cyfrannu at alluogi rhyngrwyd y pethau. Bydd defnyddwyr yn adnabod technoleg rhyngrwyd pethau gan amlaf yng nghyd-destun y "tŷ clyfar", sydd yn cynnwys dyfeisiau ac offer (er enghraifft, goleuadau, thermostatau, systemau a chamerâu diogelwch cartref) sy'n cefnogi un neu fwy o ecosystemau cyffredin ac sy'n gallu cael eu rheoli gan ddyfeisiau o fewn yr ecosystem honno, megis ffonau a seinyddion clyfar.
 
Mae pryder mawr gan rai ynghylch peryglon twf rhyngrwyd y pethau, yn enwedig o ran preifatrwydd a diogelwch, ac felly mae'r diwydiant a llywodraethau yn awr wedi dechrau edrych ar y pethau hyn.