Thomas Edward Ellis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B categori
dolenni wiki ychwanegol
Llinell 1:
[[Delwedd:Tom_Ellis_01.JPG|200px|bawd|chwith|'''Tom Ellis''' (o glawr cofiant [[Owain Llewelyn Owain|O. Llew Owain]] iddo, [[1915]])]]
Roedd '''Thomas Edward Ellis''', neu '''Tom Ellis''' ([[16 Chwefror]], [[1859]] - [[1899]]) yn wleidydd [[Radicaliaeth|radicalaidd]] o [[Cymry|Gymro]], a aned yng [[Cefnddwysarn|Nghefnddwysarn]] ger [[Y Bala]], [[Sir Feirionnydd]].
 
Roedd yn fab i Thomas Ellis, ffarmwr o [[Anghydffurfiaeth|Anghydffurfiwr]], a'i wraig Elizabeth. Cafodd ei addysg yng [[Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]] ac yn y [[Coleg Newydd, Rhydychen]].
 
Yn [[1886]] cafodd ei ethol yn [[aelodAelod seneddolSeneddol]] [[Y Blaid Ryddfrydol|Rhyddfrydol]] dros Feirion. Erbyn [[1894]] Tom Ellis oedd Prif Chwip y blaid yn [[San Steffan]].
 
Gweithiai'n ddiwyd dros [[addysg Gymraeg]] (yn arbennig yr ymdrech i greu ac ehangu [[Coleg Prifysgol Gogledd Cymru]] ym [[Bangor|Mangor]]), [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]], [[Diwygio'r Tir]] ac Ymreolaeth i Gymru ([[hunanlywodraeth]]). Chwaraeodd ran flaenllaw ym mudiad [[Cymru Fydd]].
 
Roedd yn ŵr diwylliedig a ymddiddorai'n fawr yn [[Llenyddiaeth Gymraeg|llenyddiaeth ei wlad]] (golygodd gyfrol o waith [[Morgan Llwyd]]). Cyn ei ethol yn AS ysgrifennai'n gyson i'r [[Y wasg yng Nghymru|wasg yng Nghymru]] ar bynciau diwylliannol a gwleidyddol, er enghraifft i'r ''[[Y Goleuad|Goleuad]]'', y ''[[South Wales Daily News]]'', a'r ''[[Carnarvon and Denbigh Herald]]''.
 
Torrodd ei farwolaeth gynnar a disymwth o [[Teiffoid|deiffoid]] tra ar wyliau yn [[yr Aifft]] yn [[1899]] yrfa addawol i'w sir a'i wlad. Fe'i claddwyd yng Nghapel Ddwysarn yn ei bentref genedigol.
 
Roedd yn anwyl iawn gan [[Gwerin|y werin]] a mawr fu'r golled ar ei ôl. Roedd pobl yn meddwl bod Cymru wedi colli ei harweinydd disgleiraf. Saif cofgolofn i Twm Ellis yn y Bala, a godwyd yn fuan wedi ei farwolaeth.
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 22:
*Owain Ll. Owain, ''Tom Ellis: Y Gwladgarwr'' (Caernarfon, d.d.=1915)
 
[[Categori:Cymry enwog|Ellis, Thomas Edward]]
 
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig|Ellis, Thomas Edward]]
[[Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig|Ellis, Thomas Edward]]