Brad y Llyfrau Gleision: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
==Yr adroddiad ==
Comisiynwyd yr Adroddiad yn dilyn cais [[William Williams]], [[Aelod Seneddol]] [[Coventry]] ond Cymro o [[Llanpumsaint|Lanpumsaint]], [[Sir Gaerfyrddin]] yn wreiddiol. Roedd yn ddyn hynod o wrth-Gymraeg ac yn Sais-addolwr. Yn ôl Williams, roedd angen trefn addysg newydd fel y byddai'r Cymry "''instead of appearing as a distinct people, in no respect differ from the English''". Troi'n Sais o ran iaith a meddylfryd oedd yr ateb i gyflwr y Cymry. Roedd y Cymry dan anfantais oherwydd "''the existence of an ancient language''".<ref>Dyfynnir yn Gwynfor Evans, ''Aros Mae''
Yn dilyn dros degawd o anghydfod - terfysgoedd ym [[Merthyr Tudful|Merthyr]] yn [[1831]], y [[Mudiad y Siartwyr|Siartwyr]] yn [[Y Drenewydd]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]] yn [[1839]] a [[Merched Beca]] trwy gydol y ddegawd cyn [[1846]], roedd pryder cyffredin ymysg y Sefydliad ar y pryd am sefyllfa gymdeithasol a moesol y Cymry. Teimlai nifer mai'r [[Gymraeg]] a diffyg addysg ([[Saesneg]]) oedd gwraidd nifer o'r trafferthion. Meddai'r ''[[The Times|Times]]'' o [[Llundain|Lundain]] am y Gymraeg:
Bu'r adroddiad gan [[Ralph Lingen, Barwn 1af Lingen|Ralph Robert Wheeler Lingen]], [[Jelinger Cookson Symons]] a [[Henry Robert Vaughan Johnson]], tri [[Eglwys Loegr|Eglwyswr o Sais]] na siaradai Gymraeg, yn ysgytwad i Gymry'r cyfnod gan iddo daflu amheuaeth ar eu [[moesoldeb]] ac am natur gyfrin a gwrthryfelgar yr iaith Gymraeg. Yr ymateb yma o 'frad' gan y Sefydliad Seisnig oedd y rheswm tu ôl i'r term 'Brad y Llyfrau Gleision' gael ei bathu. Yn ei ragymadrodd dywedir:
:"''The Welsh language is a vast drawback to Wales and a manifold barrier to the moral progress and commercial prosperity of the people.''" <ref name="Dyfynnir yn Aros Mae, t. 262"/>▼
▲
Wrth gydnabod yr oedd elfenau o [[hiliaeth]] i'r ymdriniaeth o'r Cymry yn y Llyfrau Gleision, yn ei lyfr ''Pam na fu Cymru'' mae [[Simon Brooks]] yn dadlau mae prosiect [[rhyddfrydiaeth|ryddfrydol]] oeddynt, gyda'r bwriad o wella sefyllfa bydol y Cymry fel unigolion drwy roi mynediad atynt i'r byd modern a gynrychiolwyd (fel y tybiwyd o leiaf) gan yr iaith Saesneg.<ref>Brooks, Simon, ''Pam Na Fu Cymru'', Gwasg Prifysgol Cymru</ref>▼
▲Wrth gydnabod yr oedd elfenau o [[hiliaeth]] i'r ymdriniaeth o'r Cymry yn y Llyfrau Gleision, yn ei lyfr ''Pam na fu Cymru'' mae [[Simon Brooks]] yn dadlau mae prosiect [[rhyddfrydiaeth|ryddfrydol]] oeddynt, gyda'r bwriad o wella sefyllfa bydol y Cymry fel unigolion drwy roi mynediad atynt i'r byd modern a gynrychiolwyd (fel y tybiwyd o leiaf) gan yr iaith Saesneg.<ref>Simon Brooks
==Ymatebion i'r adroddiad==▼
▲==Ymatebion i'r adroddiad==
Mae'r Adroddiad yn adnodd hynod ddiddorol a gwerthfawr ar gyfer haneswyr cymdeithasol a lleol. Ond ei brif effaith a'i enwogrwydd oedd iddo greu adwaith seicolegol o waseidd-dra ymhlith y Cymry wrth iddynt geisio gwrth-brofi y sen ar eu moesoldeb a'u hiaith a achoswyd gan yr Adroddiad.
Yn ei ddarlith radio adnabyddus [[Tynged yr Iaith]], meddai [[Saunders Lewis]]:
Cyfansoddodd y bardd [[John Ceiriog Hughes]] ei ddilyniant o gerddi '[[Alun Mabon]]' (1862) fel ymateb ymwybodol i'r darlun o'r Cymry a geir yn yr Adroddiad.
Cyhoeddiwyd gasgliad o ymatebion i'r adroddiad yn 1991 yn y llyfr ''[[Brad y Llyfrau Gleision (Ysgrifau)|Brad y Llyfrau Gleision]]'' wedi'i olygu gan [[Prys Morgan]].
==Gweler hefyd==▼
*[[Addysg yng Nghymru]]▼
*[[Welsh Not]]▼
*[[Brad y Llyfrau Gleision (Ysgrifau)]]▼
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
==Llyfryddiaeth==
*''Brad y Llyfrau Gleision: Ysgrifau ar Hanes Cymru'', gol. Prys Morgan (Gwasg Gomer, 1991)
*Gareth Elwyn Jones, ==Dolen allanol==
Mae'r Adroddiad wedi ei ddigido ar wefan [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] [http://www.llgc.org.uk/drych/drych_c088.htm].
▲==Gweler hefyd==
▲*[[Addysg yng Nghymru]]
▲*[[Welsh Not]]
▲*[[Brad y Llyfrau Gleision (Ysgrifau)]]
[[Categori:Addysg yng Nghymru]]
|