Pen-y-bryn, Abergwyngregyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} | ynganiad = {{wikidata|property|P443}} }}
[[Maenordy]] deulawr gyda rhan ohono'n dyddio'n ôl i gychwyn y 12g ydy '''Pen-y-bryn''' neu '''Pen y Bryn''' (ac yn anghywir: '''Garth Celyn'''), tua 200 metr o [[Abergwyngregyn]], [[Gwynedd]] a thua 5 milltir i'r dwyrain o [[bangor|Fangor]]; saif ar fryn coediog sy'n edrych dros y pentref ac [[Afon Menai]]. Yr enw cyfoes am y tŷ yw '''Pen y Bryn'''. Fe'i gwnaed o garreg leol a tho llechen ar wahanol adegau, ac ar chwe chyfnod gwahanol. Mae ganddo dŵr pedair llawr anghyffredin a gysylltir gan rai gyda [[Llywelyn Fawr]] a [[Y Dywysoges Siwan|Siwan]]. Cyfeirnod OS: SH653726. Ceir dogfen sy'n dyddion ôl i 1553 am breswylydd o'r enw Rhys Thomas a'i wraig Jane yn prynnu'r tŷ a'r tiroedd o'i amgylch pan oedd wedi mynd a'i ben iddo; o'r herwydd mae dyddio carbon yn rhoi dyddiadau ar ôl 1553.
|