Menter Iaith Sir Ddinbych: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gwybodaeth am Fenter Iaith Sir Ddinbych |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 12:31, 10 Mawrth 2020
Sefydlwyd y '''Menter Iaith Sir Ddinbych''' yn 2003 pan esblygodd o’r hen Fenter iaith Dinbych-Conwy. Mae Menter Sir Ddinbych yn rhan o rwydwaith Mentrau Iaith Cymru. Lleolir y fenter yn Neuadd y Dref yn Dinbych, Sir Ddinbych.
Bwriad a Nod y Fenter
Mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn elusen gofrestredig sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Sir Ddinbych. Mae'r Fenter yn cydweithio â sawl partner a grŵp cymunedol i weithredu eu hamcanion, gyda’r prif nod o gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau.
Nod y Mentrau Iaith yw hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru.
Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, ac yn y blynyddoedd ers hynny mae cymunedau ar draws Cymru wedi gweithredu i ffurfio Mentrau eu hunain. Erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yng Nghymru sy’n gwasanaethu pob rhan o Gymru.
Y Mentrau Iaith yw’r ffordd mae cymunedau lleol Cymru yn gweithredu er budd y Gymraeg. Mae wedi bod yn fodel llwyddiannus dros y blynyddoedd ac yn cael ei gydnabod fel ffordd effeithiol o ddatblygu cymunedol sydd yn gwneud gwahaniaeth yn lleol.
Mae’r Mentrau Iaith yn cael eu rheoli gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol ac maent yn gweithio mewn partneriaeth gydag amryw o sefydliadau eraill.
Pwyllgor Rheoli Menter Iaith Sir Ddinbych
Alice Jones – Cadeirydd
Owain Morris – Trysorydd
Emrys Wynne
Arwel Roberts
Eleri Llwyd
Gwenan Prysor
Alaw Griffith
Bethan Cartwright
Menna Jones
[1] Gwefan Menter Iaith Sir Ddinbych
- ↑ "Amdanom ni | Menter Iaith Sir Ddinbych". www.misirddinbych.cymru. Cyrchwyd 2020-03-10.