James Hughes (Iago Trichrug): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwybodlen wd
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/WicidataPerson|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=dinasyddiaeth|nationality={{banergwlad|Cymru}}|dateformat=dmy}}
Roedd '''James Hughes (lago Trichrug)''' ([[3 Gorffennaf]], [[1779]] – [[2 Tachwedd]], [[1844]]) yn [[Gweinidog yr Efengyl|Weinidog yr Efengyl]] gyda'r [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru|Methodistiaid Calfinaidd]] Cymreig yn [[Llundain]] ac yn [[Bardd|fardd]]. <ref name=":1">[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-JAM-1779 Roberts, G. M., (1953). HUGHES, JAMES (‘Iago Trichrug’; 1779 - 1844), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd, ac esboniwr Beiblaidd. Y Bywgraffiadur Cymreig.] Adferwyd 12 Chw 2020</ref>
 
== Cefndir ==
Ganwyd Iago Trichrug yn y Neuadd Ddu, [[Ciliau Aeron]]; nepell o [[Trichrug|fryn Trichrug]] y cymerodd ei enw barddol ohono. Roedd yn fab i Jenkin Hughes, (Siencyn y gof) ac Elen merch Rhys y crydd, ei ail wraig. Bu farw ei mam pan oedd Iago yn flwydd oed a chafodd ei fagu am ychydig gan ddwy fodryb weddw. Ychydig wedyn priododd Siencyn y gof am y drydedd waith i ferch oedd ganddi tri o blant. Symudodd Iago a'r pedwar hanner brodyr a chwiorydd o'r briodas gyntaf i fyw atynt. Oherwydd bod gormod o blant i'w magu danfonwyd plant y wraig newydd allan i weini, rhywbeth a achosodd anghydfod rhwng Iago a'i fam wen. Peth arall oedd yn codi anghydfod yn y teulu oedd hoffter Siencyn y gof o [[Cwrw|gwrw]]. Pan oedd Iago tua 15 mlwydd oed penderfynodd Siencyn a rhai o'i gyfeillion, yn eu diod, i fudo i'r [[Unol Daleithiau America|America]] ac ni chlywodd y mab air o sôn amdano wedyn. <ref name=":0">{{Cite book|title=Biographical dictionary of ministers and preachers of the Welsh Calvinistic Methodist Body: or Presbyterians of Wales; from the start of the denomination to the close of the year 1850 - James Hughes (Iago Trichrug)|url=https://archive.org/details/MN5137ucmf_2/page/n141/mode/2up|publisher=Carnarvon, [Wales] : D. O'Brien Owen, C. M. Book Agency|date=1907|first=Joseph|last=Evans|year=|isbn=|location=|pages=}}</ref>
 
Derbyniodd lago Trichrug rhywfaint o addysg elfennol rhwng 7 a 10 oed mewn ysgol ddyddiol [[Cymraeg]] oedd yn cael ei gadw yn eglwys Trefilan gan Dafydd Gruffydd o Dal y Fan. Wedi hynny fu i nifer o ysgolion lle fu'n ceisio dysgu [[Saesneg]] a [[Lladin]] heb fawr o lwyddiant. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1356250/1368098/6#?xywh=-205%2C-18%2C3562%2C2316 Cymru - Cyf. 56, 1919 Iago Trichrug gan Daniel Thomas]</ref>
 
== Gyrfa ==
Wedi cyfnod yn gweithio fel gwas fferm symudodd Iago Trichrug i [[Lundain]] ym 1799. Yn Llundain fu'n gweithio fel [[gof]] cyn symud i weithdy cynhyrchu [[Angor|angorauangor]]au yn Deptford, gan aros yno am 21 mlynedd. <ref>{{Cite web|title=Hughes, James [pseud. Iago Trichrug] (1779–1844), Welsh Calvinistic Methodist minister {{!}} Oxford Dictionary of National Biography|url=https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-14076;jsessionid=968F848BFB61C859D996C811B7AAB27B|website=www.oxforddnb.com|access-date=2020-02-12|doi=10.1093/ref:odnb/14076|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
Roedd wedi gwrando ar bregethau gan yr [[Annibynwyr]] a'r [[Arminiaeth|Arminiad]] yng Nghiliau Aeron ac wedi ymuno a'r Methodistiaid Calfinaidd yno ym 1797 ond heb fawr rwymiad at achos crefydd. Pan geisiodd symud ei aelodaeth eglwysig i achos Gymraeg yn Llundain, wedi dwy flynedd o fyw yn y ddinas, cafodd ei ddwrdio gan [[John Elias]], a oedd yn ymweld â'r achos, am ei fywyd afradlon a'i ddiffyg ymrwymiad. Roedd Iago'n flin efo John Elias am ei eiriau cas, ond mae'n rai eu bod wedi cael effaith gan ei fod wedyn yn ymroi i fywyd y capel. Ym 1808 cafodd ei godi yn un o flaenoriaid Capel Deptford ac ym 1810 dechreuodd bregethu. Ym 1816 fe'i hordeiniwyd i gyflawn waith y weinidogaeth yn [[Llangeitho]] gan wasanaethu cynulleidfaoedd y Methodistiaid Calfinaidd yn Llundain am weddill ei oes. Ym 1823 rhoddodd gorau i'w gwaith fel gwneuthurwr angorau er mwyn ddod yn weinidog ar gapel Methodist newydd Jewin am £80 y flwyddyn. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1134021/1152911/124#?xywh=-1085%2C-400%2C5038%2C3274 Y Traethodydd – James Hughes (Iago Trichrug) gan Gomer M Roberts]</ref>
 
== Bardd a llenor ==
Dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth yn ei ieuenctid. Roedd yn hunan addysgedig yn y grefft, gan ddysgu trwy fenthyg llyfrau barddoniaeth ac am farddoniaeth gan gymdogion a chydnabod yn ardal Ciliau Aeron. Cyhoeddwyd nifer o'i gerddi yn ''[[Seren Gomer]]'' ac roedd ei gyfieithiadau o gerdd [[Thomas Gray|Thomas Grey]] ''Bard a ''cherdd Robert Blair ''Grave'' yn hynod boblogaidd fel darnau adrodd yn ei ddydd''.''
 
Ei brif waith llenyddol, serch hynny, oedd ei Sylwebaeth ar y [[Y Testament Newydd|Testament Newydd]] mewn dwy gyfrol, a ddaeth yn llyfr cartref yn y mwyafrif o deuluoedd Methodistaidd Cymru. I lawer, ystyriwyd bod barn Jâms Huws yn awdurdod terfynol. Dechreuodd y gwaith ym 1829, a'i gyhoeddi ym 1835. Gwerthwyd wyth mil o gopïau mewn cyfnod byr, a ystyriwyd yn llwyddiant mawr. Bu llwyddiant ei gyhoeddiad yn sbardun iddo baratoi sylwebaeth debyg ar yr [[Yr Hen Destament|Hen Destament]]. Cyrhaeddodd y 35ain bennod o Lyfr Jeremeia pan roddodd marwolaeth ddiwedd ar ei lafur. Diweddwyd y gwaith gan y Parch. [[Roger Edwards]]. <ref name=":0" />
 
Cynhwyswyd nifer o'i emynau yn y llyfrau emynau enwadol ac mae dau o hyd yng ''Nghaneuon Ffydd'', y llyfr emynau cyd-enwadol a ddisodlodd y rhai enwadol yn 2001. <ref>{{Cite book|title=Caneuon ffydd.|url=https://www.worldcat.org/oclc/50653939|publisher=Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol|date=2001|location=[Cymru]|isbn=1-903754-00-3|oclc=50653939|}}</ref>
 
Rhif 163:
Llinell 36:
 
==Teulu==
Priododd Martha Griffiths ym 1807 cawsant dri o blant. <ref name=":0" />
 
== Marwolaeth ==
[[Delwedd:Grave_of_James_Hughes,_Iago_Trichrug_-_geograph.org.uk_-_776589.jpg|chwith|bawd|Bedd Iago Trichrug]]
Bu farw yn ei gartref yn Rotherhithe, Llundain, yn 65 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Bunhill Fields.
 
Cyhoeddwyd cofiant iddo ym 1911 ''James Hughes: Sef Cyfrol goffa Yr Hybarch Esboniwr James Hughes (Iago Trichrug), Llundain, yn cynnwys ei fywgraffiad, a detholiad o'i weithiau barddonol a rhyddieithol'' gan John Evan Davies, (Rhuddwawr).<ref>{{Cite web|title=Formats and Editions of James Hughes : sef cyfrol goffa yr hybarch esboniwr James Hughes (Iago Trichrug), Llundain, yn cynnwys ei fywgraffiad, a detholiad o'i weithiau barddonol a rhyddiaethol [WorldCat.org]|url=https://www.worldcat.org/title/james-hughes-sef-cyfrol-goffa-yr-hybarch-esboniwr-james-hughes-iago-trichrug-llundain-yn-cynnwys-ei-fywgraffiad-a-detholiad-oi-weithiau-barddonol-a-rhyddiaethol/oclc/47660391/editions?referer=di&editionsView=true|website=www.worldcat.org|access-date=2020-02-12|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Cyhoeddwyd astudiaeth o'i fywyd a'i gwaith yng Nghyfres Llen y Llenor yn 2007 ''James Hughes - Iago Trichrug'' gan [[Robert Rhys]]. <ref>{{Cite book|title=James Hughes ('Iago Trichrug')|url=https://www.worldcat.org/oclc/190861283|publisher=Gwasg Pantycelyn|date=2007|location=Caernarfon|isbn=978-1-903314-79-1|oclc=190861283|last=Rhys, Robert.}}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{DEFAULTSORT:Hughes, James}}
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Hughes, James}}
[[Categori:Genedigaethau 1779]]
[[Categori:Marwolaethau 1844]]