Geometreg ddadansoddol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Gwybodlen wd
 
Llinell 4:
Defnyddir geometreg ddadansoddol yn helaeth mewn [[ffiseg]] a pheirianneg, a hefyd ym maes awyrennau ac [[awyrennu]], [[daeareg|creigiau]], [[gwyddoniaeth y gofod]] a meysydd yn ymwneud â golau. Dyma sylfaen y rhan fwyaf o feysydd geometreg modern, gan gynnwys geometreg algebraidd, gwahaniaethol, arwahanol a chyfrifiannol.
 
Fel arfer mae'r system cyfesurynnau Cartesaidd yn cael ei ddefnyddio i drin [[hafaliad]]au ar gyfer planau, [[llinell|llinellau syth]] a [[sgwar]]iau, yn aml mewn [[Gofod dau ddimensiwn|dau]] ac weithiau mewn [[tri dimensiwn]]. Felly, mewn geometreg, astudir y [[planau Ewclidaidd]] (dau ddimensiwn) a [[Geometreg Ewclidaidd|gofod Ewclidaidd]] (tri dimensiwn). Fel y'i dysgir mewn gwerslyfrau, gellir esbonio geometreg ddadansoddol fel maes sy'n diffinio a chynrychioli gwybodaeth sy'n ymwneud â rhifau. Mae'r weithred o ddefnyddio [[algebra]] [[rhifau real]] i ganfod canlyniadau am gontinwwm llinol geometreg yn dibynnu ar y wireb (acsiom) Cantor-Dedekind.
 
==Cyfesurynnau Cartesaidd==