20fed ganrif yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
==Gwleidyddiaeth==
[[Delwedd:Senedd.jpg|200px|bawd|chwith|Sefydlwyd [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] yn [[1999]]]]'''Y Rhyddfrydwyr'''
 
Yn chwarter cyntaf y ganrif roedd Cymru yn wlad [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Ryddfrydol]] o ran ei [[gwleidyddiaeth]] a daeth [[David Lloyd George]], AS [[Caernarfon]], yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol a phrif weinidog y [[DU]]. Ond bu newid yn hinsawdd gwleidyddol y wlad ar ôl y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], a'r [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] oedd y blaid rymusaf yng Nghymru o'r [[1930au]] ymlaen gyda'i chadarnloedd yn y [[De Cymru|De]] a'r gogledd-ddwyrain. Ffurfiwyd [[Plaid Cymru]] yn 1925 ond araf fu ei thwf tan y [[1960au]] pan etholwyd [[Gwynfor Evans]] yn AS [[Caerfyrddin]] yn 1966. Dyma'r cyfnod a welodd sefydlu [[Cymdeithas yr Iaith]] hefyd, mudiad a fyddai'n chwarae rhan bwysig yn y frwydr i ennill cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith [[Gymraeg]]. Bu newid mawr ym myd sefydliadau gwleidyddol Cymru hefyd gyda sefydlu'r [[Swyddfa Gymreig]] yn [[1964]], a'r broses [[datganoli]] a arweiniodd at sefydlu [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] yn [[1999]] gyda llywodraeth Llafur mewn grym.
Bu pedair plaid wleidyddol yn flaenllaw yn hanes gwleidyddol Cymru yn yr ugeinfed ganrif, sef, y [[Plaid Lafur|Blaid Lafur]], [[Plaid Ryddfrydol (DU)|y Blaid Ryddfrydol]], [[Y Blaid Geidwadol (DU)|y Blaid Geidwadol]] a [[Plaid Cymru|Phlaid Cymru]]. Gwelodd y Blaid Ryddfrydol ei chefnogaeth yn cyrraedd pinacl yn ystod Etholiad Cyffredinol 1906, ond erbyn Etholiad Cyffredinol 1966 roedd y Blaid Lafur mewn bri. Daeth Etholiad Cyffredinol 1983 a llwyddiant mawr i'r Ceidwadwyr yng Nghymru, ac erbyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 roedd Plaid Cymru yn rym gwleidyddol o bwys yng Nghymru.
 
Roedd Etholiad Cyffredinol 1906 yn fuddugoliaeth ysgubol i’r Blaid Ryddfrydol yng Nghymru ac yn gyfnod euraidd yn hanes y Blaid yng Nghymru. Yng Nghymru yn 1906 enillodd y Rhyddfrydwyr 28 sedd ond ni lwyddodd y Ceidwadwyr i ddal eu gafael ar yr un sedd, er iddynt ennill 33.8% o'r bleidlais. Heblaw am y Rhyddfrydwyr roedd pedwar aelod 'Lib/Lab', un cynrychiolydd y Blaid Lafur Annibynnol ac un aelod dros y Blaid Lafur.
 
[[John Williams (Eryr Glan Gwawr)|John Williams]] oedd cynrychiolydd y Blaid Lafur Annibynnol yng Ngŵyr, a [[Keir Hardie]] oedd cynrychiolydd y Blaid Lafur ''(Saesneg:Labour Representation Committee)'' yn un o ddwy sedd Merthyr. Keir Hardie a sefydlodd y Blaid Lafur Annibynnol ac ef oedd yr Aelod Seneddol Sosialaidd cyntaf yng Nghymru. Fe'i hetholwyd i gynrychioli un o ddwy sedd Merthyr Tydfil am y tro cyntaf yn 1900.
 
Sefydlwyd y Blaid Ryddfrydol ym Mehefin 1859 pan ddaeth Chwigiaid, cefnogwyr Peel a Radicaliaid ynghyd yn Llundain i wrthwynebu'r Ceidwadwyr, gan frwydro dros ryddid cydwybod a hawliau sifil.  Traddodiad radicalaidd oedd i'r Blaid Ryddfrydol yng Nghymru. Bu'r Blaid Ryddfrydol mewn grym o dan arweiniad Gladstone bedair gwaith ac ar ddechrau'r ugeinfed ganrif daeth Asquith ac yna [[David Lloyd George|Lloyd George]] yn brif weinidogion.
 
Yn 1888 cafodd [[Stuart Rendel]] ei ethol yn gadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig, y gydnabyddiaeth gyntaf i Ryddfrydwyr Cymru. Un o'r Rhyddfrydwyr amlycaf, ac un o'r gwleidyddion pwysicaf yn hanes Cymru oedd David Lloyd George.  Etholwyd ef yn AS dros fwrdeistref Caernarfon ym mis Ebrill 1890 yn 27 oed. Rhwng 1892 a 1895 chwaraeodd ran amlwg yn y Senedd ar gwestiwn datgysylltu'r Eglwys. Daeth yn Llywydd y Bwrdd Masnach yn 1905 ac yna yn Ganghellor o 1908 hyd 1915 pan ddaeth yn Weinidog dros arfau. Treuliodd rai misoedd fel gweinidog rhyfel yn 1916 cyn dod yn Brif Weinidog.
 
Gwnaeth merch David Lloyd George dorri cwys newydd yn hanes gwleidyddiaeth Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1929.  Yn yr etholiad hynny,
[[Delwedd:Meganlloydgeorge.jpg|bawd|Megan Lloyd George]]
enillodd [[Megan Lloyd George]] sedd Sir Fôn dros y Rhyddfrydwyr gan ddal y sedd hyd nes 1951. Hi oedd yr Aelod Seneddol benywaidd cyntaf yng Nghymru.
 
Cwympodd safle'r Blaid Ryddfrydol yng ngwleidyddiaeth Prydain dros y blynyddoedd wedi buddugoliaeth fawr 1906 oherwydd ymladd mewnol a chystadleuaeth oddi wrth y Blaid Lafur a'r Blaid Dorïaidd. Daeth i fod yn drydedd Blaid, ac erbyn Etholiad Cyffredinol 1950 dim ond naw Aelod Seneddol oedd gan y Rhyddfrydwyr a phump o'r rheini yng Nghymru.
 
 
Pan fu farw [[Clement Davies]], AS Sir Drefaldwyn ers 1929 ac arweinydd y Blaid Ryddfrydol o 1945 tan 1956, dim ond seddi Ceredigion ([[Roderic Bowen]]) a Threfaldwyn ([[Emlyn Hooson]]) oedd yn dal yn eu meddiant yng Nghymru.
 
=== Y Blaid Lafur ===
Sefydlwyd y ''Labour Representation Committee'' yn 1900 ac yn yr un flwyddyn etholwyd dau aelod i'r Senedd i gynrychioli'r pwyllgor. Newidiwyd yr enw yn 1906 i'r ''Labour Party'' (y Blaid Lafur) ac erbyn hynny roedd naw aelod ar hugain ganddynt yn Nhŷ'r Cyffredin. Er mor llwyddiannus fu’r Rhyddfrydwyr yn Etholiad Cyffredinol 1906 bu newid yn hinsawdd gwleidyddol y wlad ar ol y Rhyfel Byd Cyntaf ac o’r 1930au ymlaen y Blaid Lafur oedd y blaid rymusaf yng Nghymru gan ennill ei chadarnleoedd yn y De a’r gogledd-ddwyrain. Ramsay MacDonald oedd yn Brif Weinidog ar y ddau achlysur cyntaf i'r Blaid Lafur ddod i rym, sef yn 1923-24 ac o 1929 i 1931.
 
Daeth llwyddiant mawr i'r Blaid Lafur yn Etholiad Cyffredinol 1945 o dan arweiniad [[Clement Attlee]], ond enillwyd Etholiad Cyffredinol 1951 gan y Ceidwadwyr. Ar ôl tair blynedd ar ddeg fel gwrthblaid, enillodd y Blaid Lafur Etholiad Cyffredinol 1964 ond gyda mwyafrif bychan.
 
Cafodd y llwyddiant ei gadarnhau a'i gryfhau yn Etholiad Cyffredinol 1966 pan enillwyd 32 allan o'r 36 sedd yng Nghymru ganddynt. Llwyddodd y Rhyddfrydwyr i ddal eu gafael ar un sedd a'r Ceidwadwyr ar dair. Cododd cyfanswm pleidlais y Blaid Lafur i 836,100 sef cynnydd o 26,000 ers yr Etholiad Cyffredinol ddwy flynedd ynghynt. Cwympodd pleidlais y pleidiau eraill, gyda'r Ceidwadwyr yn colli 25,000, y Rhyddfrydwyr 17,000 a Phlaid Cymru 8,000 o bleidleisiau.
 
Yn Etholiad 1966 pleidleisiodd 61% o etholwyr Cymru dros y Blaid Lafur. Roedd ymgeisydd seneddol gan y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol ym mhob sedd yng Nghymru, gyda 11 Rhyddfrydwr, 20 Cenedlaetholwr ac 8 Comiwnydd hefyd yn sefyll. Cipiodd y Blaid Lafur pedair sedd ychwanegol, sef [[Conwy (etholaeth seneddol)|Conwy,]] [[Gogledd Caerdydd (etholaeth seneddol)|Gogledd Caerdydd]] a [[Sir Fynwy (etholaeth seneddol)|Sir Fynwy]] oddi ar y Ceidwadwyr, a [[Ceredigion (etholaeth seneddol)|Cheredigion]] oddi ar y Rhyddfrydwyr.
 
Cynrychiolwyd etholaeth Ceredigion gan y Rhyddfrydwyr ers bron i ganrif tan i [[Elystan Morgan]] gipio'r sedd i'r Blaid Lafur yn 1966, gyda 532 pleidlais yn unig o fwyafrif. Roedd Elystan Morgan yn gyn-aelod o Blaid Cymru. Yn ei daflen etholiadol mae'n datgan "Fel un a fu yn sosialydd erioed, ymunais â'r Blaid Lafur gan lwyr gredu yn ei daliadau. Trwy Lafur a thrwy Lafur yn unig, y daw ffrwythau gwleidyddol i Gymru".
 
Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 1966 fe barhaodd y Blaid Lafur mewn grym o dan arweiniad [[Harold Wilson]] hyd 1970. Roedd yn ôl wrth y llyw eto erbyn 1974, ond yn Etholiad Cyffredinol 1979 trechwyd y Llywodraeth Lafur gan y Blaid Geidwadol dan arweinyddiaeth [[Margaret Thatcher]].
 
=== Y Blaid Geidwadol ===
Daeth y [[Plaid Geidwadol|Blaid Geidwadol]] i fodolaeth yn ystod yr 1830au (defnyddiwyd yr enw am y tro cyntaf yn 1831) a ffurfiwyd llywodraeth gyntaf y Blaid yn 1834 gan [[Robert Peel|Syr Robert Peel]]. Er nad enillodd y Ceidwadwyr gefnogaeth mwyafrif pobl Cymru, llwyddodd i aros mewn grym ym Mhrydain am y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif.
 
 
Yn Etholiad Cyffredinol 1983 fe enillodd y Ceidwadwyr 42.2% o'r bleidlais ym Mhrydain a 31% o'r bleidlais yng Nghymru. Ymhlith y rhesymau i'r Blaid Geidwadol wneud mor dda yn yr etholiad hwn oedd ei phoblogrwydd yn dilyn [[Rhyfel y Falklands]] (Malvinas), a'r ffaith bod y Blaid Lafur yn parhau yn amhoblogaidd.
 
 
Arweinydd llwyddiannus y Ceidwadwyr yn y cyfnod hwn oedd [[Margaret Thatcher]] a ddaeth yn Brif Weinidog yn 1979. Parhaodd yn y swydd tan 1990 pan ddaeth [[John Major]] yn arweinydd ar y blaid. Yng Nghymru cwympodd pleidlais y Blaid Lafur i 38% yn Etholiad Cyffredinol 1983, y ffigwr isaf ers 1918. Rhoddwyd llawer o'r bai am ddiffyg llwyddiant y Blaid Lafur ar [[Michael Foot]], ac yn dilyn yr etholiad fe ymddiswyddodd. Yn ei le fe ddaeth Neil Kinnock, y pumed Aelod Seneddol Cymreig i arwain y Blaid Lafur.
 
 
Yng Nghonwy yn 1983 roedd [[Wyn Roberts]], Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, yn wynebu sialens oddi wrth Roger Roberts (Rhyddfrydwyr), Ira Walters (Llafur) a Dafydd Iwan (Plaid Cymru). Wyn Roberts oedd yn fuddugol gyda 41.7% o'r pleidleisiau. Roedd wedi bod yn Aelod Seneddol dros yr ardal ers 1970 ac wedi bod ar y meinciau blaen ers 1974.
 
 
[[Keith Best]], cyfreithiwr o ochrau Llundain a enillodd sedd Sir Fôn yn 1983 yn erbyn [[Ieuan Wyn Jones]] (Plaid Cymru) a Tudor Williams (Y Blaid Lafur). Ef oedd AS Ynys Môn o 1979 i 1987 a bu'n gynorthwy-ydd personol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru o 1981 i 1984.
 
 
Rhai Ceidwadwyr llwyddiannus eraill yng Nghymru oedd [[Raymond Gower|Syr Raymond Gower]] ym Mro Morgannwg; [[Nicholas Edwards, Barwn Crughywel|Nicholas Edwards]] ym Mhenfro (Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, 1979-87); Peter Hubbard-Miles ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Keith Raffan yn Nelyn a [[Tom Hooson]] ym [[Brycheiniog a Sir Faesyfed (etholaeth seneddol)|Mrycheiniog]] a Maesyfed.
 
=== Plaid Cymru ===
{| class="wikitable"
|Gwynfor Evans
|Plaid Cymru
|16179
|39%
|-
|Gwilym Prys Davies
|Llafur
|13743
|33.1%
|-
|D Hywel Davies
|Rhyddfrydwyr
|8650
|20.8%
|-
|Simon Day
|Ceidwadwyr
|2934
|7.1%
|-
|
|Mwyafrif:
|2436
|5.99%
|}
 
Sefydlwyd Plaid Cymru yn 1925 ond ni chafodd ei llwyddiant etholiadol cyntaf hyd nes etholwyd Gwynfor Evans yn Aelod Seneddol Caerfyrddin yn 1966.
 
 
Yn Etholiad Cyffredinol Mawrth 1966 etholwyd Megan Lloyd George yn AS Llafur Sir Gaerfyrddin gan guro, ymysg eraill, Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru. Megan Lloyd George a oedd wedi dal y sedd dros y Blaid Lafur ers 1957, ond bu farw ychydig dros ddeufis ar ôl yr etholiad, ac fe alwyd isetholiad. Safodd Gwynfor Evans unwaith eto fel ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru er ei fod wedi ei drechu gan yr ymgeisydd Llafur a'r ymgeisydd Rhyddfrydol, ac wedi cael 16.1% yn unig o'r bleidlais dri mis ynghynt. Ond y tro hwn ef oedd yn fuddugol gyda 39.0% o'r bleidlais, a mwyafrif o 2,436 pleidlais dros Gwilym Prys Davies, yr ymgeisydd Llafur.
 
 
Gwynfor Evans oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru ac fe barhaodd fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin tan iddo golli'r sedd yn 1970. Dychwelodd i gynrychioli Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin am gyfnod o bum mlynedd rhwng 1974 a 1979. Fe fu llwyddiant syfrdanol Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin yn hwb sylweddol i Blaid Cymru gan arwain at gyfnod o gynnydd yng nghefnogaeth y Blaid.
 
Roedd y 1960au yn ddegawd pwysig yng Nghymru wrth iddi fagu fwy o ymdeimlad cenedlaethol.  Dyma'r cyfnod a welodd sefydliad Cymdeithas yr Iaith yn 1962 yn sgil, mudiad a fyddai'n chwarae rhan bwysig yn y frwydr i ennill cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith Gymraeg. Bu newid mawr ym myd sefydliadau gwleidyddol Cymru hefyd gyda sefydlu'r Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd yn 1964, a James Griffiths, Aelod Seneddol Llafur, Llanelli, yn cael ei benodi fel Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru (1964-66). 
 
=== Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 a Phlaid Cymru ===
Er bod Cymru wedi pleidleisio yn erbyn cael Cynulliad ei hunan yn Refferendwm 1979 parhawyd i gynnal y momentwm i sefydlu Cynulliad i Gymru yn negawdau diwethaf yr 20fed ganrif.  Enillodd y Blaid Lafur Etholiad Cyffredinol ym mis Mai 1997, ac ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn fe gyhoeddodd y llywodraeth newydd Bapur Gwyn, 'Llais dros Gymru', a oedd yn ddisgrifiad manwl o gynigion y Blaid Lafur ar gyfer datganoli i Gymru. Yn dilyn hyn cynhaliwyd Refferendwm ar 18 Medi 1997 er mwyn darganfod a oedd pobl Cymru'n cefnogi datganoli.
 
Hwn oedd y tro cyntaf i Gymru gael pleidleisio ar gwestiwn datganoli ers 1979 pan bleidleisiodd 80% yn erbyn cynnig y Blaid Lafur i sefydlu Cynulliad yng Nghymru. Yn 1997 50.3% yn unig o etholwyr a aeth allan i bleidleisio ac roedd y canlyniad yn un agos. Pleidleisiodd 552, 698 yn erbyn datganoli a 559,419 o'i blaid.
 
Yn dilyn Refferendwm 1997 pasiodd y senedd Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a throsglwyddo pwerau a chyfrifoldebau datganoledig Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Cynulliad.
 
Ar 6 Mai 1999 cynhaliwyd etholiadau cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Defnyddiwyd system newydd o bleidleisio am y tro cyntaf a oedd yn ddull cynrychiolaeth gyfrannol. Roedd dwy bleidlais gan bawb, y gyntaf dros ymgeisydd ym mhob etholaeth seneddol (40 sedd), a'r ail dros blaid i ddewis ugain aelod rhanbarthol. Aelod rhanbarthol oedd Prif Ysgrifennydd cyntaf y Cynulliad, Alun Michael.
 
Enillodd y Blaid Lafur 28 o'r 60 sedd ac felly nid oedd gan yr un plaid fwyafrif clir yn y Cynulliad. Gwnaeth Plaid Cymru yn well na'r disgwyl. Fe gwympodd seddi megis Llanelli, Rhondda ac Islwyn iddynt ac ar ddiwedd y cyfrif gwelwyd bod ganddynt 17 sedd. Yn Etholiad Cyffredinol 1997 roedd Plaid Cymru wedi cael 6.8% o'r pleidleisiau yn unig ond enillwyd 28.4% o'r bleidlais etholaethol a 30.59% o'r bleidlais yn rhanbarthol yn etholiad 1999.
 
 
Canlyniadau annisgwyl oedd buddugoliaethau Gareth Jones yng Nghonwy a Helen Mary Jones yn Llanelli. Syrthiodd y Rhondda i Geraint Davies er bod Llafur wedi dal y sedd Seneddol ers cenedlaethau. Sedd ddiogel arall a gipiwyd gan Blaid Cymru oedd sedd Islwyn. Roedd yr ymgeisydd Llafur, Don Touhig, wedi ennill y sedd Seneddol yn isetholiad 1995 gyda mwyafrif o dros 13,000 o bleidleisiau yn dilyn penodiad Neil Kinnock fel Comisiynydd Ewropeaidd. Ond Plaid Cymru a enillodd etholiad y Cynulliad gyda Mr Brian Hancock yn curo yr ymgeisydd Llafur o 604 pleidlais.
 
==Diwydiant==