20fed ganrif yng Nghymru

Gellid dadlau fod yr 20g yng Nghymru yn gyfnod a welodd fwy o newid yn y wlad nag yn ystod unrhyw gyfnod arall yn ei hanes.

Arfbais Llywelyn Fawr
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres
Cyfnodau
Cynhanes
Cyfnod y Rhufeiniaid
Oes y Seintiau
Yr Oesoedd Tywyll
Yr Oesoedd Canol Cynnar
Oes y Tywysogion
Yr Oesoedd Canol Diweddar
Cyfnod y Tuduriaid
17eg ganrif
18fed ganrif
19eg ganrif
20fed ganrif
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd
Yr Ail Ryfel Byd
21ain ganrif
Teyrnasoedd
Deheubarth
Gwynedd
Morgannwg
Powys
Yn ôl pwnc
Hanes crefyddol
Hanes cyfansoddiadol
Hanes cyfreithiol
Hanes cymdeithasol
Hanes demograffig
Hanes economaidd
Hanes gwleidyddol
Hanes LHDT
Hanes milwrol
Hanes morwrol
Hanes tiriogaethol
Hanesyddiaeth

GwleidyddiaethGolygu

Y Rhyddfrydwyr

Bu pedair plaid wleidyddol yn flaenllaw yn hanes gwleidyddol Cymru yn yr ugeinfed ganrif, sef, y Blaid Lafur, y Blaid Ryddfrydol, y Blaid Geidwadol a Phlaid Cymru. Gwelodd y Blaid Ryddfrydol ei chefnogaeth yn cyrraedd pinacl yn ystod Etholiad Cyffredinol 1906, ond erbyn Etholiad Cyffredinol 1966 roedd y Blaid Lafur mewn bri. Daeth Etholiad Cyffredinol 1983 a llwyddiant mawr i'r Ceidwadwyr yng Nghymru, ac erbyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 roedd Plaid Cymru yn rym gwleidyddol o bwys yng Nghymru. [1]

Roedd Etholiad Cyffredinol 1906 yn fuddugoliaeth ysgubol i’r Blaid Ryddfrydol yng Nghymru ac yn gyfnod euraidd yn hanes y Blaid yng Nghymru. Yng Nghymru yn 1906 enillodd y Rhyddfrydwyr 28 sedd ond ni lwyddodd y Ceidwadwyr i ddal eu gafael ar yr un sedd, er iddynt ennill 33.8% o'r bleidlais. Heblaw am y Rhyddfrydwyr roedd pedwar aelod 'Lib/Lab', un cynrychiolydd y Blaid Lafur Annibynnol ac un aelod dros y Blaid Lafur.

John Williams oedd cynrychiolydd y Blaid Lafur Annibynnol yng Ngŵyr, a Keir Hardie oedd cynrychiolydd y Blaid Lafur (Saesneg:Labour Representation Committee) yn un o ddwy sedd Merthyr. Keir Hardie a sefydlodd y Blaid Lafur Annibynnol ac ef oedd yr Aelod Seneddol Sosialaidd cyntaf yng Nghymru. Fe'i hetholwyd i gynrychioli un o ddwy sedd Merthyr Tudful am y tro cyntaf yn 1900.

Sefydlwyd y Blaid Ryddfrydol ym Mehefin 1859 pan ddaeth Chwigiaid, cefnogwyr Peel a Radicaliaid ynghyd yn Llundain i wrthwynebu'r Ceidwadwyr, gan frwydro dros ryddid cydwybod a hawliau sifil.  Traddodiad radicalaidd oedd i'r Blaid Ryddfrydol yng Nghymru. Bu'r Blaid Ryddfrydol mewn grym o dan arweiniad Gladstone bedair gwaith ac ar ddechrau'r ugeinfed ganrif daeth Asquith ac yna Lloyd George yn brif weinidogion.

Yn 1888 cafodd Stuart Rendel ei ethol yn gadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig, y gydnabyddiaeth gyntaf i Ryddfrydwyr Cymru. Un o'r Rhyddfrydwyr amlycaf, ac un o'r gwleidyddion pwysicaf yn hanes Cymru oedd David Lloyd George.  Etholwyd ef yn AS dros fwrdeistref Caernarfon ym mis Ebrill 1890 yn 27 oed. Rhwng 1892 a 1895 chwaraeodd ran amlwg yn y Senedd ar gwestiwn datgysylltu'r Eglwys. Daeth yn Llywydd y Bwrdd Masnach yn 1905 ac yna yn Ganghellor o 1908 hyd 1915 pan ddaeth yn Weinidog dros arfau. Treuliodd rai misoedd fel gweinidog rhyfel yn 1916 cyn dod yn Brif Weinidog.[2]

Gwnaeth merch David Lloyd George dorri cwys newydd yn hanes gwleidyddiaeth Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1929.  Yn yr etholiad hynny,

 
Megan Lloyd George

enillodd Megan Lloyd George sedd Sir Fôn dros y Rhyddfrydwyr gan ddal y sedd hyd nes 1951. Hi oedd yr Aelod Seneddol benywaidd cyntaf yng Nghymru.

Cwympodd safle'r Blaid Ryddfrydol yng ngwleidyddiaeth Prydain dros y blynyddoedd wedi buddugoliaeth fawr 1906 oherwydd ymladd mewnol a chystadleuaeth oddi wrth y Blaid Lafur a'r Blaid Dorïaidd. Daeth i fod yn drydedd Blaid, ac erbyn Etholiad Cyffredinol 1950 dim ond naw Aelod Seneddol oedd gan y Rhyddfrydwyr a phump o'r rheini yng Nghymru. [3]


Pan fu farw Clement Davies, AS Sir Drefaldwyn ers 1929 ac arweinydd y Blaid Ryddfrydol o 1945 tan 1956, dim ond seddi Ceredigion (Roderic Bowen) a Threfaldwyn (Emlyn Hooson) oedd yn dal yn eu meddiant yng Nghymru. [4]

Y Blaid LafurGolygu

Sefydlwyd y Labour Representation Committee yn 1900 ac yn yr un flwyddyn etholwyd dau aelod i'r Senedd i gynrychioli'r pwyllgor. Newidiwyd yr enw yn 1906 i'r Labour Party (y Blaid Lafur) ac erbyn hynny roedd naw aelod ar hugain ganddynt yn Nhŷ'r Cyffredin. Er mor llwyddiannus fu’r Rhyddfrydwyr yn Etholiad Cyffredinol 1906 bu newid yn hinsawdd gwleidyddol y wlad ar ol y Rhyfel Byd Cyntaf ac o’r 1930au ymlaen y Blaid Lafur oedd y blaid rymusaf yng Nghymru gan ennill ei chadarnleoedd yn y De a’r gogledd-ddwyrain. Ramsay MacDonald oedd yn Brif Weinidog ar y ddau achlysur cyntaf i'r Blaid Lafur ddod i rym, sef yn 1923-24 ac o 1929 i 1931.

Daeth llwyddiant mawr i'r Blaid Lafur yn Etholiad Cyffredinol 1945 o dan arweiniad Clement Attlee, ond enillwyd Etholiad Cyffredinol 1951 gan y Ceidwadwyr. Ar ôl tair blynedd ar ddeg fel gwrthblaid, enillodd y Blaid Lafur Etholiad Cyffredinol 1964 ond gyda mwyafrif bychan.

Cafodd y llwyddiant ei gadarnhau a'i gryfhau yn Etholiad Cyffredinol 1966 pan enillwyd 32 allan o'r 36 sedd yng Nghymru ganddynt. Llwyddodd y Rhyddfrydwyr i ddal eu gafael ar un sedd a'r Ceidwadwyr ar dair. Cododd cyfanswm pleidlais y Blaid Lafur i 836,100 sef cynnydd o 26,000 ers yr Etholiad Cyffredinol ddwy flynedd ynghynt. Cwympodd pleidlais y pleidiau eraill, gyda'r Ceidwadwyr yn colli 25,000, y Rhyddfrydwyr 17,000 a Phlaid Cymru 8,000 o bleidleisiau.

Yn Etholiad 1966 pleidleisiodd 61% o etholwyr Cymru dros y Blaid Lafur. Roedd ymgeisydd seneddol gan y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol ym mhob sedd yng Nghymru, gyda 11 Rhyddfrydwr, 20 Cenedlaetholwr ac 8 Comiwnydd hefyd yn sefyll. Cipiodd y Blaid Lafur pedair sedd ychwanegol, sef Conwy, Gogledd Caerdydd a Sir Fynwy oddi ar y Ceidwadwyr, a Cheredigion oddi ar y Rhyddfrydwyr.

Cynrychiolwyd etholaeth Ceredigion gan y Rhyddfrydwyr ers bron i ganrif tan i Elystan Morgan gipio'r sedd i'r Blaid Lafur yn 1966, gyda 532 pleidlais yn unig o fwyafrif. Roedd Elystan Morgan yn gyn-aelod o Blaid Cymru. Yn ei daflen etholiadol mae'n datgan "Fel un a fu yn sosialydd erioed, ymunais â'r Blaid Lafur gan lwyr gredu yn ei daliadau. Trwy Lafur a thrwy Lafur yn unig, y daw ffrwythau gwleidyddol i Gymru".

Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 1966 fe barhaodd y Blaid Lafur mewn grym o dan arweiniad Harold Wilson hyd 1970. Roedd yn ôl wrth y llyw eto erbyn 1974, ond yn Etholiad Cyffredinol 1979 trechwyd y Llywodraeth Lafur gan y Blaid Geidwadol dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher. [5]

Y Blaid GeidwadolGolygu

Daeth y Blaid Geidwadol i fodolaeth yn ystod yr 1830au (defnyddiwyd yr enw am y tro cyntaf yn 1831) a ffurfiwyd llywodraeth gyntaf y Blaid yn 1834 gan Syr Robert Peel. Er nad enillodd y Ceidwadwyr gefnogaeth mwyafrif pobl Cymru, llwyddodd i aros mewn grym ym Mhrydain am y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif.

Yn Etholiad Cyffredinol 1983 fe enillodd y Ceidwadwyr 42.2% o'r bleidlais ym Mhrydain a 31% o'r bleidlais yng Nghymru. Ymhlith y rhesymau i'r Blaid Geidwadol wneud mor dda yn yr etholiad hwn oedd ei phoblogrwydd yn dilyn Rhyfel y Falklands (Malvinas), a'r ffaith bod y Blaid Lafur yn parhau yn amhoblogaidd.

Arweinydd llwyddiannus y Ceidwadwyr yn y cyfnod hwn oedd Margaret Thatcher a ddaeth yn Brif Weinidog yn 1979. Parhaodd yn y swydd tan 1990 pan ddaeth John Major yn arweinydd ar y blaid. Yng Nghymru cwympodd pleidlais y Blaid Lafur i 38% yn Etholiad Cyffredinol 1983, y ffigwr isaf ers 1918. Rhoddwyd llawer o'r bai am ddiffyg llwyddiant y Blaid Lafur ar Michael Foot, ac yn dilyn yr etholiad fe ymddiswyddodd. Yn ei le fe ddaeth Neil Kinnock, y pumed Aelod Seneddol Cymreig i arwain y Blaid Lafur.

Yng Nghonwy yn 1983 roedd Wyn Roberts, Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, yn wynebu sialens oddi wrth Roger Roberts (Rhyddfrydwyr), Ira Walters (Llafur) a Dafydd Iwan (Plaid Cymru). Wyn Roberts oedd yn fuddugol gyda 41.7% o'r pleidleisiau. Roedd wedi bod yn Aelod Seneddol dros yr ardal ers 1970 ac wedi bod ar y meinciau blaen ers 1974.

Keith Best, cyfreithiwr o ochrau Llundain a enillodd sedd Sir Fôn yn 1983 yn erbyn Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru) a Tudor Williams (Y Blaid Lafur). Ef oedd AS Ynys Môn o 1979 i 1987 a bu'n gynorthwy-ydd personol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru o 1981 i 1984.

Rhai Ceidwadwyr llwyddiannus eraill yng Nghymru oedd Syr Raymond Gower ym Mro Morgannwg; Nicholas Edwards ym Mhenfro (Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, 1979-87); Peter Hubbard-Miles ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Keith Raffan yn Nelyn a Tom Hooson ym Mrycheiniog a Maesyfed. [6]

Plaid CymruGolygu

Sefydlwyd Plaid Cymru yn 1925 ond ni chafodd ei llwyddiant etholiadol cyntaf hyd nes etholwyd Gwynfor Evans yn Aelod Seneddol Caerfyrddin yn 1966.

Isetholiad 1966 yng Nghaerfyrddin
Gwynfor Evans Plaid Cymru 16179 39%
Gwilym Prys Davies Llafur 13743 33.1%
D Hywel Davies Rhyddfrydwyr 8650 20.8%
Simon Day Ceidwadwyr 2934 7.1%
Mwyafrif: 2436 5.99%

Yn Etholiad Cyffredinol Mawrth 1966 etholwyd Megan Lloyd George yn AS Llafur Sir Gaerfyrddin gan guro, ymysg eraill, Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru. Megan Lloyd George a oedd wedi dal y sedd dros y Blaid Lafur ers 1957, ond bu farw ychydig dros ddeufis ar ôl yr etholiad, ac fe alwyd isetholiad. Safodd Gwynfor Evans unwaith eto fel ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru er ei fod wedi ei drechu gan yr ymgeisydd Llafur a'r ymgeisydd Rhyddfrydol, ac wedi cael 16.1% yn unig o'r bleidlais dri mis ynghynt. Ond y tro hwn ef oedd yn fuddugol gyda 39.0% o'r bleidlais, a mwyafrif o 2,436 pleidlais dros Gwilym Prys Davies, yr ymgeisydd Llafur.

Gwynfor Evans oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru ac fe barhaodd fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin tan iddo golli'r sedd yn 1970. Dychwelodd i gynrychioli Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin am gyfnod o bum mlynedd rhwng 1974 a 1979. Fe fu llwyddiant syfrdanol Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin yn hwb sylweddol i Blaid Cymru gan arwain at gyfnod o gynnydd yng nghefnogaeth y Blaid.

Roedd y 1960au yn ddegawd pwysig yng Nghymru wrth iddi fagu fwy o ymdeimlad cenedlaethol.  Dyma'r cyfnod a welodd sefydliad Cymdeithas yr Iaith yn 1962 yn sgil, mudiad a fyddai'n chwarae rhan bwysig yn y frwydr i ennill cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith Gymraeg. Bu newid mawr ym myd sefydliadau gwleidyddol Cymru hefyd gyda sefydlu'r Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd yn 1964, a James (Jim) Griffiths, Aelod Seneddol Llafur, Llanelli, yn cael ei benodi fel Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru (1964-66). [7]

Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 a Phlaid CymruGolygu

Er bod Cymru wedi pleidleisio yn erbyn cael Cynulliad ei hunan yn Refferendwm 1979 parhawyd i gynnal y momentwm i sefydlu Cynulliad i Gymru yn negawdau diwethaf yr 20fed ganrif. Enillodd y Blaid Lafur Etholiad Cyffredinol ym mis Mai 1997, ac ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn fe gyhoeddodd y llywodraeth newydd Bapur Gwyn, 'Llais dros Gymru', a oedd yn ddisgrifiad manwl o gynigion y Blaid Lafur ar gyfer datganoli i Gymru. Yn dilyn hyn cynhaliwyd Refferendwm ar 18 Medi 1997 er mwyn darganfod a oedd pobl Cymru'n cefnogi datganoli.

Hwn oedd y tro cyntaf i Gymru gael pleidleisio ar gwestiwn datganoli ers 1979 pan bleidleisiodd 80% yn erbyn cynnig y Blaid Lafur i sefydlu Cynulliad yng Nghymru. Yn 1997 50.3% yn unig o etholwyr a aeth allan i bleidleisio ac roedd y canlyniad yn un agos. Pleidleisiodd 552, 698 yn erbyn datganoli a 559,419 o'i blaid.

Yn dilyn Refferendwm 1997 pasiodd y senedd Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a throsglwyddo pwerau a chyfrifoldebau datganoledig Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Cynulliad.

Ar 6 Mai 1999 cynhaliwyd etholiadau cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Defnyddiwyd system newydd o bleidleisio am y tro cyntaf a oedd yn ddull cynrychiolaeth gyfrannol. Roedd dwy bleidlais gan bawb, y gyntaf dros ymgeisydd ym mhob etholaeth seneddol (40 sedd), a'r ail dros blaid i ddewis ugain aelod rhanbarthol. Aelod rhanbarthol oedd Prif Ysgrifennydd cyntaf y Cynulliad, Alun Michael.

Enillodd y Blaid Lafur 28 o'r 60 sedd ac felly nid oedd gan yr un plaid fwyafrif clir yn y Cynulliad. Gwnaeth Plaid Cymru yn well na'r disgwyl. Fe gwympodd seddi megis Llanelli, Rhondda ac Islwyn iddynt ac ar ddiwedd y cyfrif gwelwyd bod ganddynt 17 sedd. Yn Etholiad Cyffredinol 1997 roedd Plaid Cymru wedi cael 6.8% o'r pleidleisiau yn unig ond enillwyd 28.4% o'r bleidlais etholaethol a 30.59% o'r bleidlais yn rhanbarthol yn etholiad 1999.

Canlyniadau annisgwyl oedd buddugoliaethau Gareth Jones yng Nghonwy a Helen Mary Jones yn Llanelli. Syrthiodd y Rhondda i Geraint Davies er bod Llafur wedi dal y sedd Seneddol ers cenedlaethau. Sedd ddiogel arall a gipiwyd gan Blaid Cymru oedd sedd Islwyn. Roedd yr ymgeisydd Llafur, Don Touhig, wedi ennill y sedd Seneddol yn isetholiad 1995 gyda mwyafrif o dros 13,000 o bleidleisiau yn dilyn penodiad Neil Kinnock fel Comisiynydd Ewropeaidd. Ond Plaid Cymru a enillodd etholiad y Cynulliad gyda Mr Brian Hancock yn curo yr ymgeisydd Llafur o 604 pleidlais. [8]

DiwydiantGolygu

Erbyn 1911 roedd 86,000 o bobl yn gweithio ar y rheilffyrdd ac yn nociau mawr y De. Ddechrau'r 20g disodlwyd haearn gan dur fel y prif fetel a oedd yn cael ei allforio o'r wlad. Roedd 3,700 yn gweithio mewn gwaith copr yn 1911 ac 21,000 mewn gwaith tun. Roeddent yn cynhyrchu 848,000 tunnell o blat tin mewn blwyddyn. Cynhyrchwyd 56.8 miliwn tunnell o lo yn 1913. Roedd Cymru yn allforio traean o holl allforion glo y byd gan gyflogi 250,000 o ddynion ym meysydd glo y de a'r gogledd-ddwyrain.

Ond cafwyd dirywiad difrifol mewn nifer o'r diwydiannau traddodiadol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn arbennig yn y meysydd glo. Yn 1913 cyflogid yn y gwaith glo 232,000 o ddynion, ond erbyn 1960 dim ond 106,000 a gyflogid a syrthiasai'r nifer i 30,000 yn unig erbyn 1979. Nid oedd ond un pwll glo ar ôl yng Nghymru erbyn y 1990au.

Roedd dirywiad tebyg yn y diwydiant dur ac economi Cymru yn gyffredinol. Roedd Cymru fel nifer o wledydd eraill y gorllewin yn dod yn fwy fwy ddibynnol ar y sector gwasanaeth.

Un o ganlyniadau'r dirywiad yn y diwydiant glo ac o ganlyniad esgeuluso diogelwch y tipiau glo oedd trychineb Aberfan, pan lyncwyd ysgol gyfan gan lithriad gwastraff glo gan ladd 144 o blant ac athrawon. [9]

Iaith a diwylliantGolygu

 
Canran siaradwyr Cymraeg fesul awdurdod lleol, yn ôl Cyfrifiad 2001

Yn 1911 roedd gan Gymru boblogaeth o 2,400,000 gyda bron i 1,000,000 yn siarad Cymraeg. Dyma'r nifer fwyaf erioed ond eisoes roedd y Cymry Cymraeg yn lleiafrif. Ond lladdwyd nifer o Cymry ifainc yn y Rhyfel Byd Cyntaf, llawer ohonyn nhw'n siaradwyr Cymraeg. Cafodd Dirwasgiad Mawr y 1930au ei effaith hefyd a chredir fod tua 450,000 o bobl wedi ymfudo o'r wlad rhwng 1921 a 1939.

Cymraeg oedd iaith gyntaf mwyafrif pobl Cymru hyd at yr ugeinfed ganrif. Ar ddechrau'r 19fed ganrif credid bod 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn unig, 10% yn ddwyieithog ac 20% yn uniaith Saesneg. Erbyn diwedd y 19eg ganrif dim ond hanner y boblogaeth oedd yn medru'r Gymraeg - canlyniad nifer o ffactorau cymhleth, gan gynnwys dyfodiad y rheilffyrdd i Gymru a'r mewnlifiad o filoedd o bobl o Loegr i weithio yn bennaf yn ardaloedd diwydiannol y wlad.  Lladdwyd cenhedlaeth gyfan o siaradwyr Cymraeg oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf ac ymfudodd llawer rhwng y ddau ryfel byd, yn enwedig adeg y Dirwasgiad.

Gwelodd yr 20fed ganrif frwydrau yn cael eu hennill dros roi lle i’r iaith ym mywyd cyhoeddus Cymru, er enghraifft, yn y gyfraith.  Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1938, dan arweiniad Undeb Cymru Fydd, dechreuwyd casglu enwau ar gyfer Deiseb Genedlaethol. Diben y Ddeiseb oedd hawlio statws i'r iaith Gymraeg 'a fyddai'n unfraint â'r Saesneg ym mhob agwedd ar weinyddiad y gyfraith a'r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru'. Arwyddwyd y Ddeiseb gan dros chwarter miliwn o bobl a chafwyd cefnogaeth 30 allan o'r 36 Aelod Seneddol Cymreig.  Arweiniodd hyn at Ddeddf Llysoedd Cymru 1942 a ganiataodd y defnydd o'r Gymraeg mewn llysoedd barn ond methwyd a sicrhau hawliau ehangach. [10]

Bu darllediad Saunders Lewis yn Narlith Radio flynyddol y BBC yn Chwefror 13 1962 yn un o’r trobwyntiau pwysicaf yn hanes Cymru. 

'Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo'. 

 
Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith, ar Bont Trefechan.

Roedd ganddo neges glir y byddai’r iaith yn marw onibai bod ei siaradwyr yn

barod i’w hamddiffyn ac i ymgyrchu dros sicrhau ei pharhad a’i dyfodol.  Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi a thrwyddedau os nad oedd yn bosibl i wneud hynny drwy'r Gymraeg. Yn ei farn ef, byddai angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon a wynebu carchar am eu daliadau. Arweiniodd ei araith at sefydliad Cymdeithas yr Iaith yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontardulais yn 1962 a bu’r Gymdeithas yn allweddol yn sicrhau bod Deddf Iaith 1967 yn cael ei phasio. Yn Chwefror 1963 trefnodd y Gymdeithas y protestiadau torfol cyntaf pan ataliwyd y traffig ar Bont Trefechan, Aberystwyth gan fyfyrwyr o Aberystwyth a Bangor.  Yn ystod y 1960au a'r 1970au bu nifer o brotestiadau didrais tebyg a charcharwyd neu ddirwywyd ymgyrchwyr. Ymhlith y rhain oedd y canwr poblogaidd Dafydd Iwan.  Am gyfnod peintiwyd neu ddifrodwyd arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg ar hyd a lled Cymru gan gefnogwyr y Gymdeithas ac arweiniodd yr ymgyrch hon at sefydlu'r egwyddor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru. [11] [12]


 
O.M. Edwards, tua 1895.

Bu ymgyrchoedd ym myd addysg hefyd dros hawliau'r iaith Gymraeg.  Profodd yr ugeinfed ganrif i fod yn hollbwysig yn sefydlu’r Gymraeg nid yn unig fel pwnc astudio ar gwricwlwm dysgu ysgolion Cymru ond hefyd fel cyfrwng dysgu.  Ers cyhoeddi Adroddiadau Addysg 1847, a adnabyddwyd yng Nghymru fel ‘Brad y Llyfrau Gleision roedd y Gymraeg wedi cael ei phardduo fel iaith anwaraidd nad oedd defnydd na lle iddi yn yr oes fodern, ddiwydiannol newydd.  Roedd cyflwyniad y Welsh Not yn y 1870au yn ysgolion Cymru wedi magu ymdeimlad o warth a chywilydd ymhlith ei siaradwyr ond gyda chychwyn yr ugeinfed ganrif dechreuwyd weld tro ar fyd yn agweddau tuag at y Gymraeg.   Dan ddylanwad Owen M Edwards, Prif Arolygydd Ysgolion Cymru o 1907 hyd 1920, hyrwyddwyd yr iaith Gymraeg mewn ysgolion cynradd a dysgwyd iaith a llenyddiaeth Gymraeg fel pwnc yn yr ysgolion uwchradd a sefydlwyd o ganlyniad i Ddeddf 1889. Fodd bynnag, awyrgylch Seisnig a gafwyd yn yr ysgolion uwchradd hyn, hyd yn oed yn yr ardaloedd mwyaf Cymreig.

Roedd y teulu Edwards yn ganolog yn sicrhau cefnogaeth i’r iaith yn y negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif gyda mab Syr O.M Edwards yn sefydlu mudiad Urdd Gobaith Cymru yn 1922.  Ehangodd y mudiad yn nes ymlaen yn y ganrif gyda agor gwersylloedd ieuenctid yr Urdd yng Nglanllyn, ger Y Bala ac yn Llangrannog, Ceredigion sy’n parhau hyd heddiw.


Yn 1939, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, yn Aberystwyth sefydlwyd yr ysgol gyntaf i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Gan fod cymaint o faciwis di-Gymraeg wedi cyrraedd y dref o ddinasoedd Lloegr er mwyn osgoi'r bomio, a gan eu bod yn derbyn eu haddysg mewn ysgolion lleol, roedd dysgu'r Gymraeg ynddynt yn anodd. Felly penderfynodd Syr Ifan ab Owen Edwards (mab Owen M Edwards) sefydlu Ysgol Gymraeg Urdd Gobaith Cymru gyda saith o ddisgyblion.  Derbyniai'r disgyblion eu gwersi i gyd yn y Gymraeg. Maes o law daeth mwy o blant i'r ysgol ac ar ôl ymgyrchu brwd fe'i sefydlwyd yn ysgol swyddogol o dan yr awdurdod addysg lleol wedi'r Rhyfel.

Sefydlwyd ysgolion Cymraeg eraill ledled Cymru wedi hynny ac yn 1956 agorwyd Ysgol Glan Clwyd yn y Rhyl, yr ysgol uwchradd gyntaf lle roedd y Gymraeg yn gyfrwng dysgu. Erbyn 1975 roedd 7 ysgol uwchradd ddwyieithog wedi'u sefydlu. Yn aml, canlyniad ymgyrchu diflino gan rieni a mudiadau oedd sefydlu'r ysgolion hyn.

Gwirfoddolwyr oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu Mudiad Ysgolion Meithrin yn 1971 i ddarparu addysg feithrin Gymraeg i blant o dan bump oed. Erbyn canol y '90au roedd dros fil o grwpiau meithrin yn bodoli o dan nawdd y Mudiad. [13]

CrefyddGolygu

Profodd yr ugeinfed ganrif i fod yn gyfnod a welodd crefydd yng Nghymru yn raddol dirywio a chrebachu o ran niferoedd yr addoldai a’r nifer o aelodau oedd yn mynychu addoldy.  Ar droad y ganrif yr oedd tua hanner poblogaeth Cymru yn aelodau o eglwys. Yn 1900 roedd gan y Methodistiaid Calfinaidd 158,111 o aelodau, yr Annibynwyr 144,000 a'r Bedyddwyr 106,000. Erbyn diwedd y ganrif roedd y niferoedd wedi lleihau yn enbyd.  Adlewyrchwyd y newid yma tuag at werthoedd crefydd gyda’r newid mewn agwedd tuag at agor tafarndai ar y Sul.  Er bod Deddf Cau’r Tafarndai yng Nghymru wedi ei phasio yn 1881 a oedd yn deddfu nad oedd unrhyw dafarn i fod ar agor ar ddiwrnod y Sabath roedd newid wedi dod ar droed erbyn dechrau’r 1960au.  Mewn sawl reffernda a gynhaliwyd rhwng y 1960au – 1980au erbyn 1982 dim ond dwy sir oedd dal yn cau ei thafarndai ar y Sul.

Patrymau mudo yng NghymruGolygu

Erbyn dechrau’r 20fed ganrif roedd dros 1,000 o Eidalwyr yn byw yng Nghymru. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio mewn caffis neu siopau hufen iâ, ond daeth rhai ohonynt o hyd i waith ar y môr neu yn y pyllau glo a’r gweithfeydd dur. Roedd llawer wedi dod o ardal Bardi yng ngogledd yr Eidal a oedd yn ffoi rhag yr amodau ffermio gwael yn yr ardal honno. Cafodd yr Eidalwyr effaith sylweddol ar fywyd yng Nghymru. Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, roedd gan bob tref fach yng Nghymru ei chaffi Eidalaidd ei hun ac erbyn 1939 roedd 336 ohonynt yn Ne Cymru. Fe’u galwyd yn “siopau Bracchi” (ar ôl Giacomo Bracchi, y dyn y credir iddo ddod â hufen iâ a danteithion Eidalaidd i Dde Cymru). Daethant yn fan casglu cymdeithasol, gan gynnig dewis amgen rhad di-alcohol i dafarndai a chlybiau.

Roedd pum caffi ar Taff Street ym Mhontypridd a saith arall mewn rhannau eraill o’r dref. Roedd y caffis Eidalaidd yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr yn ystod diwrnodau tywyll y Dirwasgiad. Gallai dynion diwaith wneud i baned o de neu goco bara oriau yng nghynhesrwydd a chyfforddusrwydd y caffi lleol – a phan roedd pethau’n anodd, byddai’r bil yn aml yn cael ei roi o’r neilltu nes bod pethau’n gwella yn y pentref. Cafodd y gymuned Gymreig-Eidalaidd effaith mewn ffyrdd eraill hefyd.  Agorodd y brodyr Frank ac Aldo Berni, oedd wedi dechrau eu busnes ym Merthyr Tudful, y Berni Inn cyntaf yn 1956. Erbyn 1970, pan werthwyd y 147 o fwytai a gwestai, hon oedd y gadwyn fwyaf o fwytai y tu allan i’r Unol Daleithiau. Daeth Eidalwyr Cymreig yn enwog mewn meysydd gwahanol;

Parhaodd y mewnfudo i Gymru tan ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn y 1920au a’r 1930au gadawodd llawer o bobl y wlad wrth i’r diwydiannau trwm traddodiadol (e.e. glo, dur a llechi) grebachu. Ychydig iawn o fewnfudo a welwyd wrth i economi Cymru arafu. Fodd bynnag, yn y 1930au daeth tua 40,000 o Iddewon a oedd yn ffoi rhag erledigaeth y Natsïaid i Brydain. Ymgartrefodd rhai ohonynt yng Nghymru, lle y gwnaethant helpu i sefydlu ystâd fasnachu Trefforest. Yn y 1930au hefyd gwelwyd dau grŵp o blant yn ymfudo i Gymru oherwydd y tensiynau gwleidyddol oedd yn Ewrop ar y pryd:

Yn 1937, daeth 4,000 o blant o Wlad y Basg a oedd yn ffoi’r rhyfel cartref yn Sbaen i Brydain. Daeth mwy na 200 ohonynt i Gaerllion, Abertawe, Hen Golwyn a Brechfa yn Sir Gaerfyrddin.

Yn 1938-9, teithiodd 10,000 o blant Iddewig i’r DU mewn ymgyrch o’r enw Kindertransport. Aeth tua 200 ohonynt i Gastell Gwrych ger Abergele.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd roedd prinder llafur yn broblem fawr ym Mhrydain ac aeth y llywodraeth ati i annog pobl i fudo i’r wlad. Daethant o amrywiol fannau. Yn ystod y rhyfel, ymladdodd llawer o Bwyliaid (yn ogystal â Tsieciaid ac Wcraniaid) ar ochr y cynghreiriad. Ar ôl y rhyfel, wrth i Ddwyrain Ewrop ddisgyn i gomiwnyddiaeth, penderfynodd llawer ohonynt sefyll ym Mhrydain, rhai oherwydd eu bod yn casáu comiwnyddiaeth a rhai eraill oherwydd y cysylltiadau yr oeddent wedi’u gwneud yn ystod blynyddoedd y rhyfel. Nododd cyfrifiad 1951 fod 160,000 o Bwyliaid yn byw yn y Deyrnas Unedig. Cafodd llawer ohonynt eu lleoli i ddechrau mewn gwersylloedd ailgyfanheddu (hen ganolfannau milwrol yr Unol Daleithiau yn aml) fel yr un ym Mhenrhos, Gwynedd, a ddaeth yn “Bentref Pwylaidd” gyda’i eglwys, ei lyfrgell, ei ystafelloedd cyffredin, ei siop a’i randiroedd ei hun.


Fodd bynnag, nid oedd y mewnfudwyr Pwylaidd hyn, na’r don newydd o fewnfudwyr o’r Eidal, yn ddigon i fynd i’r afael â'r prinder llafur. Felly, yn y 1950au a’r 1960au dechreuodd mewnfudwyr o wledydd newydd y Gymanwlad gyrraedd Prydain. Daeth rhai pobl i Brydain hefyd oherwydd diweithdra yn y Caribî a’r dadleoli yn dilyn yr ymrannu yn India.  Ar ddiwedd y 1960au ac ar ddechrau’r 1970au, daeth Asiaid o Cenia ac Asiaid o Wganda i Brydain hefyd er mwyn ffoi rhag erledigaeth. (Fel y Pwyliaid gynt, cafodd Asiaid o Wganda eu lleoli i ddechrau mewn hen ganolfannau milwrol, fel yr un yn Nhonfanau ger Tywyn).


Ymgartrefodd rhai ymfudwyr o’r Gymanwlad yng Nghymru, yn enwedig yn y dinasoedd. Fodd bynnag, o 1962 ymlaen, gosodwyd rheolau mewnfudo mwyfwy llym ar fewnfudwyr o’r Gymanwlad. Serch hynny, drwy gydol y 1960au a’r 1970au, cafodd mwy na 70,000 o ddinasyddion o’r Gymanwlad eu derbyn i Brydain bob blwyddyn.


Yn 1973, ymunodd y Deyrnas Unedig gyda’r Undeb Ewropeaidd.  Golygai hyn y gallai dinasyddion o aelod-wladwriaethau eraill ddod i’r Deyrnas Unedig i weithio. I ddechrau, roedd nifer yr ymfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd yn isel – ychydig dros 7,000 y flwyddyn ar gyfartaledd ar draws y wlad. Fodd bynnag, ar ddiwedd y 1990au gwelwyd cynnydd dramatig wrth i ymfudwyr o aelodwladwriaethau newydd yr Undeb Ewropeaidd yn Nwyrain Ewrop ddod i Brydain i chwilio am waith. Rhwng 2001 a 2001, daeth bron 3,000,000 o fewnfudwyr i’r Deyrnas Unedig. Roedd y lefel hon o fewnfudo yn fwy nag a welwyd erioed o’r blaen i’r Deyrnas Unedig. Ers 2004, mae mwy na 16,000 o fewnfudwyr o Ddwyrain Ewrop wedi cofrestru i weithio yng Nghymru (1% o’r cyfanswm a gyflogir) gyda mwy na hanner ohonynt mewn pedair ardal (Sir Gaerfyrddin, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam). [14]

Rhai uchafbwyntiauGolygu

  1. "Ymgyrchu". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  2. "Ymgyrchu". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  3. "Ymgyrchu". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  4. "Ymgyrchu". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  5. "Ymgyrchu". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  6. "Ymgyrchu". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  7. "Ymgyrchu". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  8. "Ymgyrchu". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  9. "'Yn y lle hwn'". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  10. "Ymgyrchu". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  11. "Ymgyrchu". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  12. "Ymgyrchu". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  13. "Ymgyrchu". Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  14. "Patrymau Mudo y Cyd-destun Cymreig" (PDF). CBAC.