Afon yn Sir Gaerfyrddin yw Afon Cywyn. Ei hyd yw tua 16 milltir.

Afon Cywyn
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7926°N 4.4531°W Edit this on Wikidata
AberAfon Taf Edit this on Wikidata
Map

Mae'n tarddu yng ngorllewin canolbarth y sir yn y bryniau tua hanner ffordd rhwng Castell Newydd Emlyn a Sanclêr. Ei phrif lednant yw Nant Cynnen, sy'n llifo i mewn iddi ger Abernant. Ar ôl llifo ar gwrs deheuol mae hi'n troi i'r de-orllewin ac yn llifo heibio i Fancyfelin i aberu yn Afon Tâf ger Llandeilo Abercywyn.

Tarddiad yr enw golygu

Y sillafiad gwreiddiol yn y 12ed ganrif oedd: "Couin". Mae'r gair yn golygu "pla", ac mae'n bosibl mai'r afon oedd ffin ymlediad y pla ganrifoedd yn ôl.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Dictionary of Place-names of Wales; Gwasg Gomer, 2007; Tud 117.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato