Alcuin

ysgolhaig, clerigwr, bardd, ac athro o Sais

Bardd, ysgolhaig a diwinydd o Northumbria oedd Alcuin neu Alcwin[1] (tua 735 – 19 Mai 804).[2] Ysgrifennodd mewn Lladin. Roedd yn ysgolhaig ac athro blaenllaw yn llys Siarlymaen, ac yn un o lunwyr pwysicaf y Dadeni Carolingaidd.

Alcuin
Alcuin (canol), gyda Rabanus Maurus (chwith), yn cysegru ei waith i'r Archesgob Odgar o Mainz (dde): Llawysgrif Carolingaidd, c. 831
Ganwydc. 740 Edit this on Wikidata
Efrog, Northumbria Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mai 804 Edit this on Wikidata
Tours Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorthumbria Edit this on Wikidata
Alma mater
  • St Peter's School Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, bardd, offeiriad, ysgrifennwr, athronydd Edit this on Wikidata
Swyddabad, abbot of Flavigny Abbey Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDe dialectica, Propositiones ad Acuendos Juvenes, Alcuin's sequence, Quaestiones in Genesim Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl20 Mai Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yng Nghaerefrog[2] ac astuduodd yn y gadeirlan yno dan arweiniad yr archesgob, Ecbert o Efrog.[3] Aeth ymlaen i fod yn athro yn yr ysgol yno, a daeth yn bennaeth arni tua 767. Yn 781 fe'i hanfonodd gan y Brenin Ælfwald i Rufain i wneud cais i'r Pab am gadarnhau statws Efrog fel archesgobaeth. Ar ei ffordd adref cyfarfyddodd â Siarlymaen, brenin y Ffranciaid yn ninas Parma. Perswadiodd Siarlymaen ef i ymuno â grŵp o ysgolheigion disglair yn ei lys yn Aachen. Daeth Alcuin yn feistr ar ysgol y palas yn 782, a dysgodd nid yn unig meibion y brenin ond y brenin ei hun. Daeth yn gyfaill ac yn gynghorydd i Siarlymaen.

Dychwelodd Alcuin i Northumbria yn 1790, ond roedd yn ôl yn Aachen erbyn 1792. Yn 796 daeth yn abad Abaty Marmoutier yn Tours, lle yr arhosodd hyd ei farwolaeth.[2]

Tudalen o gopi llawysgrif (tua 800 OC) o Ars grammatica gan Alcuin

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhai Sylwadau ar 'The Story of Popular Education by the Rev. G. Howard James of Derby.' -|1909-12-03|Y Llan - Welsh Newspapers". newspapers.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-16.
  2. 2.0 2.1 2.2 Joanna Story (4 June 2005). Charlemagne: Empire and Society (yn Saesneg). Manchester University Press. t. 142. ISBN 978-0-7190-7089-1.
  3. Geoffrey Grimshaw Willis (1964). Further Essays in Early Roman Liturgy (yn Saesneg). S.P.C.K. t. 206.