Tours
Dinas yng nghanolbarth Ffrainc yw Tours. Hi yw prifddinas département Indre-et-Loire a dinas fwyaf region Centre. Saif ar afon Loire, gerllaw ei chymer ag afon Cher. Mae'n ffinio gyda Chambray-lès-Tours, Joué-lès-Tours, Mettray, Notre-Dame-d'Oé, Parçay-Meslay, La Riche, Rochecorbon, Saint-Avertin, Saint-Cyr-sur-Loire, Saint-Pierre-des-Corps ac mae ganddi boblogaeth o tua 374,681 (2017)[1]. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 136,942.
Math | cymuned, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 137,658 |
Pennaeth llywodraeth | Emmanuel Denis |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Brașov, Mülheim an der Ruhr, Segovia, Parma, Luoyang, Takamatsu, Minneapolis, Szombathely, Settat, Marrakech, Ragusa, Springfield, Trois-Rives, Trois- Rivieres |
Daearyddiaeth | |
Sir | Indre-et-Loire, arrondissement of Tours |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 34.67 km² |
Uwch y môr | 76 metr, 44 metr |
Gerllaw | Afon Loire, Afon Cher |
Yn ffinio gyda | Chambray-lès-Tours, Joué-lès-Tours, Mettray, Notre-Dame-d'Oé, Parçay-Meslay, La Riche, Rochecorbon, Saint-Avertin, Saint-Cyr-sur-Loire, Saint-Pierre-des-Corps |
Cyfesurynnau | 47.3928°N 0.6883°E |
Cod post | 37000, 37100, 37200 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Tours |
Pennaeth y Llywodraeth | Emmanuel Denis |
Daw'r enw o enw llwyth Celtaidd y Turones. Ymladdwyd Brwydr Tours rhwng Tours a Poitiers ym mis Hydref 732, pan orchfygodd y Ffranciaid dan Siarl Martel fyddin Fwslimaidd dan reolwr Al-Andalus, Abdul Rahman Al Ghafiqi.
Daeth Tours yn ganolfan eglwysig bwysig, ac yn y Canol Oesoedd yn gyrchfan boblogaidd i bererionion oherwydd bri Sant Martin o Tours, ail esgob Tours. Esgob enwog arall oedd Sant Gregori o Tours (c. 538 – 594). Daeth yn brifddinas rhanbarth Touraine.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Eglwys Gadeiriol Sant Gatien
- Pont Wilson
- Prifysgol François Rabelais
Pobl enwog o Tours
golygu- Jean Fouquet (1420-1481), arlunydd
- Honoré de Balzac (1799-1850), nofelydd
- ↑ https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.