Bardd Groeg hynafol oedd Anacreon (tua 582 CC – 485 CC).[1] Cyfansoddodd delynegion yn y dafodiaith Ïoneg mewn sawl mesur ac ar amrywiaeth o bynciau, ond fe'i cofir yn bennaf am ei gerddi am serch ac yfed gwin. Gelwir y fath farddoniaeth yn "Anacreonaidd" ers cyfnod y Dadeni.

Anacreon
Penddelw o Anacreon yn y Louvre
Ganwydc. 570 CC Edit this on Wikidata
Teos Edit this on Wikidata
Bu farwTeos Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, epigramwr, hofmeister Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g CC Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Teos, Ïonia (heddiw Siğacık, Twrci), a symudodd i Abdera, ar arfordir Thracia, yn sgil gorchfygiad y Persiaid yn 546 CC. Treuliodd ei yrfa yn llysoedd y teiraniaid, megis Polycrates o Samos a Hipparchus o Athen. Mae'n bosib fe symudodd Anacreon i Thessalia wedi llofruddiaeth Hipparchus yn 514 CC, a dywed i'w fedd gael ei ganfod yn Teos.

Dim ond dernynnau o'i waith sydd yn goroesi. Cyhoeddodd Aristarchus gasgliad o'i farddoniaeth yn Alecsandria yn yr 2g CC. Efelychwyd ei waith gan lenorion Helenistaidd a Bysantaidd, a chesglir tua 60 o'r fath gerddi yn yr Anacreontea a gyhoeddwyd gyntaf yn yr 16g.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Anacreon. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ionawr 2018.