Y Dadeni Dysg

(Ailgyfeiriad o Y Dadeni)

Cyfnod chwyldroadol yn hanes Ewrop oedd y Dadeni Dysg, neu yn syml y Dadeni, sydd yn nodi'r trawsnewid o'r Oesoedd Canol i'r cyfnod modern. Prif nodwedd yr oes hon oedd yr ailddeffroad yn nysgeidiaeth clasurol a'r ymdrech i adfywio ac adeiladu ar syniadau a gwerthoedd yr Henfyd, yn enwedig drwy ddyneiddiaeth. Dechreuodd ar droad y 13g a'r 14g yn yr Eidal, ac oddi yno ymledodd yn gyntaf yn y 15g i Sbaen a Phortiwgal ac yn yr 16g i'r Almaen, Ffrainc, y Gwledydd Isel, Lloegr, a Gwlad Pwyl. Datblygodd yng nghyd-destun argyfyngau'r Oesoedd Canol Diweddar a newidiadau cymdeithasol mawr y 14g a'r Diwygiad Protestannaidd yn y 15g. Yn ogystal â'r adfywiad clasurol a dyneiddiaeth, a fynegir drwy gyfryngau llenyddiaeth, celf, pensaernïaeth, a cherddoriaeth, nodir y Dadeni gan ddyfeisiau a darganfyddiadau newydd, gan gynnwys y cwmpawd, powdwr gwn, a'r wasg argraffu.

Y Dadeni Dysg
Trem ar Fflorens, un o brif ddinasoedd y Dadeni Dysg.
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf, mudiad diwylliannol Edit this on Wikidata
Dechreuwyd14 g Edit this on Wikidata
Daeth i ben17 g Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gancelf Gothig, yr Oesoedd Canol, Oesoedd Canol Diweddar Edit this on Wikidata
Olynwyd ganBaróc, Cyfnod Modern Cynnar Edit this on Wikidata
LleoliadEwrop Edit this on Wikidata
Yn cynnwysy Dadeni Cynnar, yr Uchel Ddadeni, Proto-Renaissance, celf y Dadeni, y Dadeni Eidalaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyd-destun hanesyddol golygu

Weithiau, caiff dechrau'r Dadeni Dysg ei ddyddio i farwolaeth yr Ymerawdwr Ffredrig II—yr arweinydd olaf i feddu ar reolaeth dros ogledd a chanolbarth yr Eidal—ym 1250. Dyma ddyddiad digon mympwyol, ond mae'n nodi un o'r elfennau pwysicaf a arweiniai at gychwyniadau'r Dadeni yn yr Eidal, sef annibyniaeth de facto y rhanbarthau hynny a fyddai'n ganolfannau diwylliannol y dyneiddwyr.

Celf golygu

 
Y Ddynes gyda Charlwm gan Leonardo da Vinci, a gedwir yn Amgueddfa Czartoryski, Kraków.

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Llenyddiaeth golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cerddoriaeth golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gwyddoniaeth golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Llinell amser o’r Dadeni golygu