Anna broffwydes

cymeriad Y Testament Newydd yn Luc 2

Mae Anna (Hebraeg:חַנָּה, Groeg Hynafol: Ἄννα) neu Anna broffwydes yn fenyw a grybwyllir yn Efengyl Luc.[1] Yn ôl yr Efengyl, roedd hi'n ddynes oedrannus o Lwyth Aser a broffwydodd am yr Iesu yn Nheml Jerwsalem. Mae hi’n ymddangos yn Luc 2: 36–38 yn ystod yr hanes am gyflwyniad yr Iesu yn y Deml.[2][3]

Anna broffwydes
Ganwyd90 CC Edit this on Wikidata
Palesteina Edit this on Wikidata
Bu farwEdit this on Wikidata
DinasyddiaethCymeriad Beiblaidd
Galwedigaethproffwyd Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl3 Chwefror Edit this on Wikidata

Ystyr yr enw golygu

Ystyr Anna yw graslon, ac mae'n perthyn i'r un gwreiddyn a'r enw Hanna yn yr Hen Destament.[4]

Testament Newydd golygu

Mae'r adnodau sy'n sôn am Anna fel a ganlyn:

Luc 2: 36–38:
Yr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser. Yr oedd hon yn oedrannus iawn, wedi byw saith mlynedd gyda'i gŵr ar ôl priodi, ac wedi parhau'n weddw nes ei bod yn awr yn bedair a phedwar ugain oed. Ni byddai byth yn ymadael â'r deml, ond yn addoli gan ymprydio a gweddïo ddydd a nos. A'r awr honno safodd hi gerllaw a moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem.

(Cyfieithiad y Beibl Cymraeg Newydd, am gyfieithiad Beibl William Morgan gweler Luc 2: 36–38 BWM am gyfieithiad beibl.net gweler Luc 2 beibl.net

O'r tri phennill hyn yn Luc, mae'r canlynol yn hysbys am Anna:

  • Roedd hi'n broffwydes.
  • Roedd hi'n ferch i Phanuel.
  • Roedd hi'n aelod o lwyth Aser.
  • Roedd hi'n weddw ar ôl saith mlynedd o briodas (nid yw ei gŵr yn cael ei enwi).
  • Roedd hi'n ddynes grefyddol iawn a oedd yn ymarfer gweddi ac ympryd yn rheolaidd.[5]

Mae Luc yn disgrifio Anna fel un "hen iawn". Mae llawer o Feiblau a sylwebyddion yn nodi ei bod yn 84 mlwydd oed. Mae'r testun Groeg yn nodi καὶ αὐτὴ χήρα ὡς ἐτῶν ὀγδοηκοντατεσσάρων, a gyfieithir yn gyffredinol fel "roedd hi'n weddw wyth deg pedair blwydd oed". Mae'r darn yn amwys: gallai olygu ei bod yn 84 oed, neu ei bod wedi bod yn wraig weddw am 84 mlynedd.[6] Mae rhai ysgolheigion o'r farn mai'r olaf yw'r opsiwn mwyaf tebygol. O dderbyn yr opsiwn hwn, ni allai fod wedi priodi yn iau na thua 14 oed, ac felly byddai wedi bod yn o leiaf 14 + 7 + 84 = 105 mlwydd oed.[7]

Mae Anna yn un o ddau broffwyd a rhoddodd croeso i'r Iesu yn y Deml. Y llall oedd Simeon, oedd hefyd yn ŵr hen iawn, oedd wedi cael addewid na fyddai'n marw cyn gweld y Crist.[8] Un o negeseuon canolog y Testament Newydd yw bod yr Iesu yn cyflawni addewid parhaus Duw trwy ei broffwydi ers i Adda ac Efa cael eu troi allan o Ardd Eden. Mae cael dau broffwyd hynod oedrannus, sydd wedi bod yn cyhoeddi addewid Duw am waredwr ers eu hieuenctid yn cyhoeddi mae'r baban Iesu yw ymgnawdoliad yr addewid yn bwysig. Mae oedran y ddau broffwyd yn tanlinellu bod y baban Iesu yn cyflawni proffwydoliaeth hynafol ddi-dor.[9]

Traddodiadau eglwysig golygu

Mae'r Eglwys Gatholig Rufeinig a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol yn dathlu Anna broffwydes fel sant. Mae'r Eglwys Uniongred hefyd yn ystyried Anna a Simeon fel yr olaf o broffwydi'r Hen Destament ac yn ddolen gyswllt rhwng yr Hen Destament a'r Newydd. Dethlir gŵyl mabsant y ddau ar 3 Chwefror.[10]

Mae ffigwr Anna yn cael ei darlunio yn iconau Uniongred o gyflwyniad Christ yn y Deml ac yn ystyried bod yr Iesu wedi cael ei gyflwyno i'w bobl trwy gyfarfod Anna a Simeon.

Gweler hefyd golygu

Rhestr o fenywod y Beibl

Cyfeiriadau golygu

  1. "Anna | beibl.net". www.beibl.net. Cyrchwyd 2020-08-03.
  2. Luc 2:22
  3. Luc 2: 36–38
  4. Catholic Encyclopedia (1913)/Anna adalwyd 2 Awst 2020
  5. Cyclopædia of Biblical, theological, and ecclesiastical literature Vol 1 tud.235. John McClintock,James Strong. adalwyd 2 Awst 2020
  6. Marshall, I. Howard. (1978). The Gospel of Luke : a commentary on the Greek text. Grand Rapids: Eerdmans. ISBN 0-8028-3512-0. OCLC 4037038.
  7. Green, Joel B. (1997). The Gospel of Luke. Grand Rapids, Mich.: W.B. Eerdmans Pub. Co. ISBN 0-8028-2315-7. OCLC 36915764.
  8. Luc 2:25
  9. Henaint Anrhydeddus; Y Diwygiwr Tachwedd – 1909 adalwyd 3 Awst 2020
  10. The Meeting of our Lord with Simeon and Anna adalwyd 2 Awst 2020
Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net