Arfbais Gwlad Iorddonen

arfbais

Mabwysiadwyd Arfbais Gwlad Iorddonen (Arabeg: شعار المملكة الأردنية الهاشمية) yn swyddogol ar 25 Awst 1934. Roedd yn seiliedig ar gynllun o 1921 a wnaed ar gais y Brenin Abdulla I. Gwnaethpwyd yr arfbais yn swyddogol yn 1934 ar sail Gyfarwyddeb Rhif 558 gan y Cyngor Gweithredol (Cyngor y Gweinidogion ar y pryd). Ar 21 Chwefror 1982, cyhoeddodd Cyngor y Gweinidogion yr Hysbysiad Rhif 6, a roddodd fanylebau ysgrifenedig ac esboniadau o arwyddlun swyddogol y wlad.

Arfbais Gwlad Iorddonen

Dyluniad a Symboliaeth golygu

Mae'r prif arfbais wedi ei fframio gan sash melfed ruddgoch wedi ei leinio â sidan gwyn sy'n arwydd o aberth a phurdeb. Caiff y ffrâm ei thrimio ar ymylon edafedd euraid a'i chasglu ar y naill ochr a'r llall gyda chortynnau taenog euraid i ddatgelu leinin sidan gwyn. Ar ben y llen neu ffram lleni yma ceir Coron yr Hasimiaid sy'n cynrychioli teyrnas Gwlad Iorddonen.

Tu fewn y ffram lleni ceir prif ddelwedd yr arfbais gyda'r eryr yn ganolbwynt:

Dau faner - yn cynrychioli baner y gwrthryfel Arabaidd fawr a bu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac a fu'n sail ar gyfer sefydlu ac yna annibyniaeth teyrnas Iorddonen. Mae'r baneri a ddangosir yn faneri a chwifiwyd yn y Gwrthryfel a bu'n sail ar gyfer baner gyfredol Iorddonen a sawl gwlad Arabaidd arall - sef baner Pan-Arab.
Eryr - yn symbol o rym, cryfder a arucheledd. Mae ei liwiau yn seiliedig yn arwydd o faner a thwrban y proffwyd Islamaidd, Muhammad. Mae'r eryr yn sefyll ar y glôb, ei adenydd yn cyffwrdd y baneri ar y naill ben. Mae pen yr eryr yn wynebu ei dde. Mae'r glôb las yn dynodi dyfodiad gwareiddiad Islamaidd.[1][2][3][4]
Tarian Chrysanthemum - saif y glôb tu ôl tarian efydd wedi'i haddurno â'r blodyn chrysanthemum, motiff cyffredin mewn celf a phensaernïaeth Arabaidd. Gosodir y darian o flaen y byd, sy'n symbol o amddiffyniad yr hyn sy'n gyfiawn. Mae cleddyfau a gwaywffyn aur, bwâu a saethau yn ymwthio allan o bob ochr i'r darian a'r byd. O amgylch y darian o'i gwaelod mae tri chlust o wenith ar y dde a palmwydd o flaen y chwith. Maent wedi'u cysylltu â rhuban Medal Gorchymyn Cyntaf Al Nahda.[1][2][3][4]
Medal Gorchymyn Cyntaf Al Nahda - wedi'i ymestyn o ganol y rhuban. Mae rhuban melyn wedi'i osod ar draws rhuban Medal Gorchymyn Cyntaf Al Nahda, yn cynnwys tair rhan wedi'u hysgrifennu ag ymadroddion, fel a ganlyn: “Abdullah I ibn Al Hussein Bin Aoun (Aoun, hen-daid Sharif Al Hussein Bin Ali)” ar y dde, “Brenin Teyrnas Iorddonen” yn y canol a “Pwy sy'n ceisio cefnogaeth ac arweiniad gan Dduw?” ar y chwith.[1][2][3][4]

Tebygrwydd i gyn-arfbais Irac golygu

 
Cyn-arfbais Teyrnas Hashimiaidd Irac

Roedd arfbais Irac pan oedd yn deyrnas frenhinol Hashimaidd hyd at 1959 pan ddaeth yn weriniaeth, yn arddel yr un arddull ddyluniol gyda'r prif arfbaid wedi ei lleoli megis ar lwyfan gyda lleni naill ochr.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "The Coat of Arms". Cyrchwyd 4 Tachwedd 2017.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Emblem". Washington: Jordanian embassy in the United States. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2004. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. 3.0 3.1 3.2 "National Arms of Jordan". Heraldry of the World. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2017.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Escudo de armas" (yn spanish). Lima: Jordanian consulate in Lima. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-20. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)