Brenhinllin sydd yn teyrnasu yng Ngwlad Iorddonen ers 1921 yw'r Hashimiaid[1] (Arabeg: الهاشميون‎, Al-Hāshimīyūn). Hwn oedd yr un teulu a deyrnasodd yn yr 20g yn Syria (1920), Hijaz (1916–1925), ac Irac (1921–1958).

Hashimiaid
Enghraifft o'r canlynolteyrnach Edit this on Wikidata
Daeth i ben1962 Edit this on Wikidata
Rhan oBanu Hashim Edit this on Wikidata
SylfaenyddHussein bin Ali, Sharif Mecca Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Hijaz Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arfbais Gwlad Iorddonen a'r Hasimiaid.

Hawliant llinach â'r Proffwyd Muhammad, trwy Hasan, mab i Fatimah, merch y Proffwyd, a'i gŵr Ali, y pedwerydd califf. Clan neu dŷ o lwyth y Quraysh oedd y Banū Hāshim yn oes y Proffwyd, a chafodd ei enwi ar ôl Hashim ibn Abd Manaf, oedd yn daid i dad Muhammad. Er i'r Hasimiaid colli eu hawl ddiddadl i'r galiffiaeth, sefydlasant eu hunain yn emiriaid neu'n sharifiaid dros y ddinas sanctaidd Mecca yn y 10g.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, arweiniodd Hussein bin Ali y Gwrthryfel Arabaidd yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid. Wedi'r rhyfel, daeth Hussein yn frenin ar Hijaz, ei fab Faisal yn frenin Irac, a'i fab Abdullah yn frenin Iorddonen. Am gyfnod byr yn y flwyddyn 1920, bu Faisal hefyd yn frenin ar Deyrnas Arabaidd Syria nes i'r Ffrancod ail-goncro'r wlad a sefydlu mandad dan awdurdod Cynghrair y Cenhedloedd. Diorseddwyd Hussein ym 1925 yn sgil y goncwest Sawdïaidd, a daeth y frenhiniaeth yn Irac i ben gyda chwyldro gan swyddogion y fyddin ym 1958.

Aelodau'r teulu brenhinol cyfoes

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, "Hashemite".

Darllen pellach

golygu
  • Morris, Jan. The Hashemite Kings.
  • Susser, Asher a Shmuelevitz, Aryeh. The Hashemites in the Modern Arab World: Essays in Honour of the late Professor Uriel Dann (Llundain, Frank Cass, 1995).