Y Gwrthryfel Arabaidd

(Ailgyfeiriad o Gwrthryfel Arabaidd)

Gwrthryfel a gychwynwyd gan y Sharif Hussein bin Ali oedd y Gwrthryfel Arabaidd (1916–1918) (Arabeg: الثورة العربية Al-Thawra al-`Arabiyya; Tyrceg: Arap İsyanı) gyda'r nod o ennill annibyniaeth i'r Arabiaid oddi wrth Ymerodraeth yr Otomaniaid a chreu un wladwriaeth Arabaidd unedig i ymestyn o Aleppo yn Syria i Aden yn Iemen. Roedd yn rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol.

Y Gwrthryfel Arabaidd
Rhan o ymgyrchoedd Arabia yn theatr y Dwyrain Canol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

T. E. Lawrence wedi Brwydr Aqaba.
Dyddiad Mehefin 1916 – mis Hydref 1918
Lleoliad Sawdi Arabia, Gwlad Iorddonen, Palesteina, Irac, Syria, Libanus
Canlyniad Cytundeb Sèvres
Newidiadau
tiriogaethol
Rhannu Ymerodraeth yr Otomaniaid
Cydryfelwyr
Teyrnas Hejaz
Teyrnas Nejd
Al Rashid

Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Ymerodraeth yr Otomaniaid
Arweinwyr
Faisal
Ibn Saud
Abdul Aziz Rashid

Y Deyrnas Unedig Edmund Allenby
Y Deyrnas Unedig T. E. Lawrence
Djemal Pasha
Fahreddin Pasha
Muhiddin Pasha
Nerth
30,000 (Mehefin 1916)[1] 23,000[1]

Arweiniwyd y gwrthryfel gan feibion y Sharif, yr Emiriaid Ali, Faisal, Abdullah a Zeid, gyda chymorth rhai swyddogion Prydeinig a Ffrengig. Ym Mehefin 1917 cipiodd yr Arabiaid borthladd Aqaba ar y Môr Coch, a symudasant yn raddol i'r gogledd. Targedodd yr Arabiaid Reilffordd Hejaz gan dorri cyflenwadau bwyd a dillad i'r Otomaniaid (neu'r Tyrciaid) ym Medina, ac roedd hyn o gymorth i ymgyrch y Cynghreiriaid yn Sinai a Phalesteina. Cwympodd Damascus ym mis Hydref 1918.

Creda'r Arabiaid fod ganddynt air Prydain: y byddai gwladwriaeth Arabaidd unedig yn cael ei ffurfio ar ôl cwymp Ymerodraeth yr Otomaniaid yn ôl Llythyron McMahon–Hussein, ond wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf cawsant eu dadrithio'n llwyr gan Gytundeb Sykes–Picot, a oedd yn rhannu'r Dwyrain Canol rhwng Prydain a Ffrainc, drwy Ddatganiad Balfour a oedd yn addo gwlad i'r Iddewon ym Mhalesteina.

Rhan gyntaf golygu

Cychwynnodd y Sharif y gwrthryfel ym Mehefin 1916. Elwant ar y dechrau ar artileri a ddanfonwyd o'r Swdan gan y Llywodraethwr Cyffredinol Syr Reginald Wingate, a llwyddasant i gipio Mecca a gorfodi'r Tyrciaid i ildio'u garsiwn yn Ta'if ar 22 Medi. Arafodd hynt yr Arabiaid, a chadwodd y Tyrciaid eu gafael ar Medina.

Adfywio'r gwrthryfel golygu

Ym mis Hydref 1916 aeth y Prydeinwyr Syr Ronald Storrs a'r Is-gyrnol T. E. Lawrence i Jeddah i geisio adfywio'r gwrthryfel. Gweithiodd Lawrence â'r Emir Faisal gan annog gwrthryfel herwfilwrol i fanteisio ar fudoledd yr Arabiaid a'u gwybodaeth a chefnogaeth leol. Bydd hyn yn ynysu'r Tyrciaid yn y trefi mawr ac yn eu gwneud yn ddibynnol ar Reilffordd Hejaz ac yn y bôn yn hawdd eu gorchfygu trwy ysbeilio a chyrchoedd bychain. Gall yr Arabiaid yna symud tua'r gogledd ar ystlys orllewinol Byddin Ymdeithiol yr Aifft dan y Cadfridog Syr Edmund Allenby.

1917 golygu

Llwyddodd yr Arabiaid i gipio Wejh yn Ionawr 1917, ac Aqaba yng Ngorffennaf gan gysylltu tiriogaeth yr Arabiaid â thir yr Ymerodraeth Brydeinig yn yr Aifft. Targedwyd Rheilffordd Hejaz â dynamit.

1918 golygu

Roedd rhan olaf y gwrthryfel yn galw ar gydweithio'n agos ag Allenby wrth i holl luoedd y Cynghreiriaid symud tuag at Damascus. Yng ngwanwyn 1918 symudodd yr Arabiaid i mewn i Syria. Ynysodd yr Arabiaid ddinas Dera'a gan dwyllo'r Tyrciaid i gredu bydd prif symudiad Allenby yn dod o'r cyfeiriad hwn. Cwympodd Damascus ar 1 Hydref.

Hanesyddiaeth golygu

Mae'r mwyafrif helaeth o'r hanesyddiaeth ar y gwrthryfel yn y Gorllewin ac yn yr iaith Saesneg yn canolbwyntio ar ran T. E. Lawrence.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 David Murphy, (lluniau gan Peter Dennis), The Arab Revolt 1916-18: Lawrence Sets Arabia Ablaze, Osprey Publishing, 2008, p. 26.