Mewn systemau rhifol mathemategol, y bôn (ll. bonion)[1] (weithiau: radics[2] neu 'sylfaen') yw'r nifer o ddigidau unigryw, gan gynnwys sero, mae system rhifo, ble mae lleoliad y digid yn bwysig, yn ei ddefnyddio i gynrychioli rhifau. Er enghraifft, ar gyfer y system ddegol (y system fwyaf cyffredin sy'n cael ei ddefnyddio heddiw) mae'r radics yn ddeg (10), gan ei fod yn defnyddio deg digid - o 0 i 9.

Bôn
Enghraifft o'r canlynolrole Edit this on Wikidata
Mathpositive integer, rhif Edit this on Wikidata

Mewn unrhyw system rhifol safonol, lleoliadol, mae'r rhif, fel arfer, yn cael ei ysgrifennu fel (x)y gydag x fel y llinyn o ddigidau ac y fel ei bôn. Gyda bôn 10, mae'r tanysgrif yn cael ei gymryd yn ganiataol (ac yn cael ei hepgor) ar gyfer bôn deg, gan mai dyma'r ffordd fwyaf cyffredin i fynegi gwerth. Er enghraifft, mae (100)dec = 100 (yn y system degol) yn cynrychioli'r nifer cant, tra bod (100)2 (yn y system ddeuaidd gyda bôn 2) yn cynrychioli'r rhif pedwar.

Radics yw'r term Lladin am 'wreiddyn'.

Systemau rhifol cyffredin golygu

O fewn system Bôn 13, mae'r llinyn o ddigidau e.e. 398 yn golygu: 3 × 132 + 9 × 131 + 8 × 130 = 632.

Yn fwy cyffredinol, mewn system bôn b (b > 1), mae rhes o ddigidau d1dn yn dynodi rhif d1bn−1 + d2bn−2 + … + dnb0, ble mae 0 ≤ di < b.[3]

Rhai bonion eitha cyffredin:

Bôn Enw Disgrifiad
2 System ddeuaidd Bôn 2; y ddau ddigid yw "0" ac "1" ("I FFWRDD" ac "YMLAEN"). Dyma'r system a ddefnyddir oddi mewn i bron pob cyfrifiadur.
8 System wythol Bôn 8. Fe'i defnyddir yn achlysurol mewn cyfrifiadureg. Yr wyth digid yw: "0–7" ac mae'n cynrychioli 3 bit (23).
10 System ddegol Bôn 10. Y sytem a ddefnyddir fwyaf drwy'r blaned. Ceir deg digid: "0–9".
12 System deuddegol Bôn 12. Fe'i defnyddir yn aml oherwydd y gellir rhannu 12 gyda 2, 3,4, a 6. Arferid ei ddefnyddio tan yn ddiweddar (1971) ar y ffurf "dwsin" yn enwedig i gyfrif arian: roedd deuddeg (neu un-deg-dau) ceiniog mewn swllt.
16 System hecsadegol Bôn 16. Fe'i defnyddir weithiau mewn cyfrifiadureg, ynghyd a'r sytem ddeuol (1 digid hex i bobr 4 bit). Ceir un-deg-chwech digid: "0–9" ac yna "A–F" neu "a–f".
20 System ugeiniol Bôn 20. Fe'i ceir yma ac acw ledled y byd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Termiadur Addysg - Ffiseg a Mathemateg; gweler www.termau.cymru; adalwyd 25 Awst 2018.
  2. termau.cymru; adalwyd 25 Awst 2018.
  3. Mano, M. Morris; Kime, Charles (2014). Logic and Computer Design Fundamentals (arg. 4th). Harlow: Pearson. tt. 13–14. ISBN 978-1-292-02468-4.