Mae'r corona (hefyd corongylch) i'w ddarganfod yn haen uchaf atmosffer yr Haul uwchben y cromosffer gyda chylchfa ryngbarthol gul yn eu gwahanu. Mae iddi dymheredd o tua miliwn K neu fwy, a dwysedd isel. Plasma sy'n ehangu i'r gofod yn barhaus yw'r corona a gellir ystyried felly ei fod yn ymestyn trwy'r heliosffer.

Yr haul

Mae'r corona isaf yn weledwy i'r llygad noeth fel 'coron' wen yn ystod diffyg ar yr Haul ac o'r gair 'coron' y daw'r enw. Ceir coronâu o amgylch sêr eraill hefyd.[1]

Cyfeiriad golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-30.