Haen o nwyon yw'r atmosffer (hefyd "atmosffêr"; o'r Groeg ἀτμός - atmos, "vapor" + σφαίρα - sphaira, "sffêr") sy'n amgylchynu planed neu gorff digon sylweddol i'w gadw drwy atyniad ei ddisgyrchiant.

Atmosffer
Mathnwy, cragen gwrthrych seryddol Edit this on Wikidata
Rhan ogwrthrych seryddol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysQ25571280 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun lloeren o hecsagon Sadwrn. Mae'r hecsagon (sydd wedi'i leoli ger pegwn gogleddol Sadwrn ddwywaith maint y Ddaear.
Ardal uwch atmosffer y ddaear

Mae rhai planedau megis y Cewri Nwy, sef pedair planed allanol Cysawd yr Haul, yn ddim byd ond nwy, ac felly fe ellir dweud fod ganddynt atmosffer twfn.

Atmosffer y Ddaear golygu

Prif erthygl: Atmosffer y ddaear
Fel nifer o blanedau eraill, mae gan y Ddaear hithau fantell o nwyon amddifynnol o'i hamgylch sy'n eu hamddiffyn rhag tymheredd eithafol.

Nitrogen yw prif nwy atmosfferig y Ddaear. Ceir yn yr atmosffer hefyd ocsigen, sef nwy sy'n hanfodol i organebau byw resbiradu a'r nwy carbon deuocsid sy'n cael ei ddefnyddio gan blanhigion yn y broses o ffotosynthesis. Mae'r atmosffer hefyd yn fath o darian rhag niwed i enynnau organebau byw gan ymbelydredd uwchfioled yr haul.

Cymerwyd miliynau ar filiynau o flynyddoedd i'w greu gan newidiadau bio-cemegol wrth i organebau byw farw a dadelfennu.

Gwasgedd atmosfferig golygu

Gwasgedd atmosfferig yw'r grym ar roddir yn berpendicwlar ar wyneb gan nwyon a chyfrifir hyn bob yn uned o arwynebedd. Mae'r gwasgedd atomosfferig yn ddibynol ar faint grym ei disgyrchiant a chyfanswm màs y golofn o nwyon uwch ei phen. Ar y Ddaear, mae'r unedau o wasgedd aer wedi eu safoni a gelwir hwy yn 'uned atmosfferig' (atm), a ddiffinir fel 101,325 Pa (760 Torr sef 14.696 pwys / modfedd agwâr (psi).

Datblygiad yr Atmosffer golygu

Pan ffurfiodd y Ddaear am y tro cyntaf 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl roedd yr atmosffer wedi gwneud yn bennaf o heliwm (50%) a hydrogen (50%). Roedd gweithgaredd folcanig dwys am y biliwn blwyddyn nesaf yn rhyddhau carbon deuocsid, amonia, ager (anwedd dwr), methan, carbon monocsid, asid hydroclorig yn ogystal â nwyon sylffwr gwahanol. Dros amser cyddwysodd y dŵr i ffurfio cefnforoedd lle datblygodd bacteria ffotosynthetig. Gwelodd leihad yn y carbon deuocsid a chynyddiad yn yr ocsigen. Roedd lleihad yn amonia'r aer gan ei fod yn adweithio a'r ocsigen i greu nitrogen ac anwedd dwr.[1] Roedd lleihad yn y methan gan fod yn adweithio a'r ocsigen i ryddhau ocsigen ac anwedd dwr. Dros amser hir iawn cafodd y carbon deuocsid ei gloi o fewn creigiau gwaddodol oedd yn ffurfio o gregyn anifeiliaid morol (calchfaen a sialc) drwy broses o'r enw ffosileiddio. Hefyd roedd carbon deuocsid yn hydoddi yn y cefnforoedd. Arosodd yr atmosffer yn weddol sefydlog am amser hir nes i weithgaredd dynol gynyddu cyfansoddiad carbon deuocsid o 0.3% a 0.4% drwy hylosgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy.

Cyfeiriadau golygu

  1. www.bbc.com https://www.bbc.com/bitesize/guides/zrthy9q/revision/1. Cyrchwyd 2019-06-28. Missing or empty |title= (help)
Chwiliwch am atmosffer
yn Wiciadur.