Grace Williams

cyfansoddwr a aned yn 1906

Cyfansoddwraig Gymreig oedd Grace Mary Williams (19 Chwefror 190610 Chwefror 1977). Cafodd ei geni yn y Barri. Ar ôl gadael Ysgol y Sir, Y Barri, derbyniodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy. Yna aeth i goleg Brenhinol Cerddoriaeth yn Llundain, ble cafodd ei dysgu gan Ralph Vaughan Williams. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudwyd y myfrywyr i Grantham yn Swydd Lincoln, lle cyfansoddodd hi rhai o'i gweithiau cynharaf, gan gynnwys Sinfonia Concertante a'i symffoni gyntaf. Ar ôl dysgu yn Llundain am ychydig, daeth yn ôl i Gymru i weithio gyda’r BBC. Un o'i gweithiau mwyaf poblogaidd oedd Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940). Rhwng 1960-61 ysgrifennodd ei hunig opera The Parlour, ond ni chafodd ei pherfformio tan 1966. Roedd yn dioddef llawer o broblemau iselwedd, ac ar ôl gwrthod OBE, bu farw yn 1977. Neilltuodd BBC Radio 3 eu heitem Cyfansoddwr yr Wythnos iddi yn ail hanner mis Awst 2006. O ganlyniad, cafwyd nifer o berfformiadau o weithiau nas perfformiwyd, gan gynnwys ei Choncerto Fiolin.

Grace Williams
GanwydGrace Mary Williams Edit this on Wikidata
19 Chwefror 1906 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 1977 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata

Gwaith golygu

Roedd llawer o waith Grace Williams yn clymu gyda cherddoraieth gwerin Gymreig, fel ei darn enwocaf, Fantasia on Welsh Nursery Tunes. Dyma rhestr o’i gwaith:

  • Theseus and Ariadne, bale (1935)
  • Four Illustrations for the Legend of Rhiannon, cerddorfa (1939)
  • Fantasia on Welsh Nursery Tunes, cerddorfa (1940)
  • Sinfonia Concertante, piano a cherddorfa (1941)
  • Symffoni rhif 1 (1943)
  • Sea Sketches, cerddorfa linynnol (1944)
  • Concerto Piano (anorffenedig) (1949)
  • The Dark Island, cerddorfa linynnol (1949)
  • Concerto Feiolin (1950)
  • Variations on a Swedish Tune, piano a cherddorfa (1950)
  • The Dancers (1951)
  • Hiraeth, telyn (1951)
  • Three Nocturnes, 2 piano (1953)
  • Seven Scenes for Young Listeners, cerddorfa (1954)
  • Penillion, cerddorfa (1955)
  • Symffoni rhif 2 (1956, diwygiedig 1975)
  • All Seasons shall be Sweet (1959)
  • The Parlour, opera (ar ôl Guy de Maupassant) (1961)
  • Processional, cerddorfa (1962, diwygiedig 1968)
  • Concerto Trumped (1963)
  • Carillons, obo a cherddorfa (1965)
  • Severn Bridge Variations: Amrywiad 5, cerddorfa (1966)
  • Ballads, cerddorfa (1968)
  • Castell Caernarfon, cerddorfa (1969)
  • Missa Cambrensis (1971)
  • Ave Maris Stella, côr SATB (1973)
  • Fairest of Stars, soprano a cherddorfa (1973)

Dolenni allanol golygu