Hugh Owen (addysgwr)

cymwynaswr addysg Cymru

Addysgwr o Gymru a gafodd ddylanwad mawr ar ddatblygiad y system addysg yng Nghymru oedd Syr Hugh Owen (14 Ionawr 180420 Tachwedd 1881). Roedd yn frodor o Langeinwen, Ynys Môn.

Hugh Owen
Ganwyd14 Ionawr 1804 Edit this on Wikidata
Llangeinwen Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 1881 Edit this on Wikidata
Menton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethaddysgwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaAthrolys, Prifysgol Aberystwyth Edit this on Wikidata
TadOwen Owen Edit this on Wikidata
MamMary Jones Edit this on Wikidata
PriodAnn Wade Edit this on Wikidata
PlantMima Owen, Hugh Owen Edit this on Wikidata
Gwobr/aumarchog Edit this on Wikidata

Ei fywyd golygu

Dyngarwr Methodistaidd oedd ef. Roedd yn un o hybwyr cyntaf Coleg y Normal, Bangor rhwng 1855 ac 1858 a llwyddodd gyda chriw bychan sefydlu Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yn 1872. Cymerodd ran amlwg yng ngwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru hefyd. Ond ei brif waith oedd sefydlu ysgolion canolraddol yng Nghymru. Claddwyd ef ym Mynwent Abney Park yn Stoke Newington, Llundain. Cafodd ei urddo'n farchog yn Awst 1881.

Beirniadaeth golygu

Mae gwaith Hugh Owen fel addysgwr wedi ei feirniadu'n hallt gan rai haneswyr modern.[angen ffynhonnell] Ar sawl ystyr, roedd yn ŵr nodweddiadol o'r dosbarth canol Seisnig Fictoraidd yng Nghymru. Fe'i beirniadir am ei fethiant i greu cyfundrefn addysg a fyddai'n fwy addas i Gymru fel gwlad ac am esgeuluso i raddau helaeth le'r iaith Gymraeg yn y gyfundrefn honno. Er ei fod yn Gymro Cymraeg, peth eilradd yn ei flaenoriaethau fu'r iaith yn ei gynlluniau addysg a bu rhaid aros am flynyddoedd i wneud yn iawn am hynny. Erbyn i hynny ddigwydd ac i'r iaith ddechrau ennill ei lle yn ysgolion Cymru roedd nifer ei siaradwyr wedi gostwng yn sylweddol a beirniadir Owen am fod yn rhannol gyfrifol am hynny trwy greu system addysg a Seisnigeiddiodd genhedlaethau o Gymry ifainc.

Y cof amdano golygu

Enwyd llyfrgell Prifysgol Aberystwyth ac Ysgol Syr Hugh Owen ar ei ôl.

Llyfryddiaeth golygu

  • W. E. Davies, Cofiant Syr Hugh Owen (1885)
  • B. L. Davies, Syr Hugh Owen (Caerdydd, 1977)
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.