Prifddinas talaith Awstria Uchaf yng ngogledd Awstria yw Linz. Roedd y boblogaeth yn 188,968, sy'n ei gosod yn drydedd ymysg dinasoedd Awstria o ran poblogaeth.

Linz
Mathdinas statudol yn Awstria, dinas fawr, bwrdeistref yn Awstria, district of Austria Edit this on Wikidata
Poblogaeth210,165 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKlaus Luger Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, CET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Charlottenburg-Wilmersdorf, České Budějovice, Chengdu, Gabès, Halle (Saale), Dinas Kansas, Kansas, Gwangyang, Linköping Municipality, Linz am Rhein, Modena, Albufeira, Brașov, Nizhniy Novgorod, Bwrdeistref Norrköping, San Carlos, Zaporizhzhia, Tampere, Eskişehir, Gorizia, Dunaújváros, Tuzla, Nasushiobara, Dodoma, Monterrey Edit this on Wikidata
NawddsantSaint Florian Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAwstria Uchaf Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstria Awstria
Arwynebedd95.99 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr261 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAltenberg bei Linz, Engerwitzdorf, Steyregg, Luftenberg an der Donau, Asten, Sankt Florian, Ansfelden, Traun, Leonding, Puchenau, Gramastetten, Lichtenberg, Perg District, Linz-Land District, Urfahr-Umgebung District Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.3058°N 14.2864°E Edit this on Wikidata
Cod post4010, 4040–4049, 4020–4029, 4030–4039 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKlaus Luger Edit this on Wikidata
Map
Castell Linz a'r Salzamt

Saif Linz ar afon Donaw. Sefydlwyd hi gan y Rhufeiniaid dan yr enw Lentia, ac yn ddiweddarach daeth yn ganolfan fasnach bwysig dan yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Mae nawr yn ddinas ddiwydiannol bwysig.

Bu nifer o enwogion yn byw yma ac yn eu plith y gwyddonydd Johannes Kepler a'r cyfansoddwr Anton Bruckner. Enwyd y brifysgol ar ôl Kepler a'r conservatorium ar ôl Bruckner. Yr enwocaf o gyn-drigolion Linz, fodd bynnag, yw Adolf Hitler, a dreuliodd y rhan fwyaf o'i ieuenctid yma, er iddo gael ei eni yn Braunau am Inn. Yn Linz y cyhoeddodd Hitler uniad gwleidyddol Awstria a'r Almaen, yr hyn a elwid yn Anschluss, yn 1938. Roedd ganddo gynlluniau mawr ar gyfer ail-adeiladu'r ddinas, ond dim ond pont y Niebelung dros yr afon a godwyd yn y diwedd.

Mae Linz yn un o ddwy Brifddinas Ddiwylliannol Ewrop am 2009.