Dodoma
Prifddinas swyddogol Tansanïa yw Dodoma. Fe'i lleolir yn Rhanbarth Dodoma yng nghanolbarth y wlad, tua 486 km i'r gorllewin o'r gyn-brifddinas Dar es Salaam a 441 km i'r de o Arusha. Roedd ganddi boblogaeth o tua 324,000 yn 2002. Y bobl Gogo, Rangi, Sandawe a Burunge yw prif grwpiau ethnig yr ardal.
Math | dinas fawr, de jure national capital |
---|---|
Poblogaeth | 213,636, 213,636, 150,604, 45,807 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Dodoma, Dodoma Urban District |
Gwlad | Tansanïa |
Arwynebedd | 2,576 km² |
Uwch y môr | 1,120 metr |
Cyfesurynnau | 6.1835°S 35.746°E |
Roedd Dodoma yn safle pwysig ar y rheilffordd rhwng Cefnfor India a Llyn Tanganica yn hanesyddol. Fe'i datganwyd yn brifddinas Tansanïa ym 1974 a symudodd y Cynulliad Cenedlaethol yno ym 1996 ond mae llawer o swyddfeydd y llywodraeth yn aros yn Dar es Salaam.