Ffurf ar geidwadaeth yw neo-geidwadaeth sydd yn cyfuno nodweddion traddodiadol yr ideoleg honno gydag unigolyddiaeth wleidyddol a chefnogaeth dros y farchnad rydd. Datblygodd yn Unol Daleithiau America yn y 1970au ymysg academyddion a sylwebyddion gwrth-gomiwnyddol oedd yn anghytuno â gwrthddiwylliant y 1960au.[1] Ystyrir polisïau economaidd Ronald Reagan (Reaganomeg) a Margaret Thatcher (Thatcheriaeth) yn neo-geidwadol.

Gwleler hefyd golygu

Neo-ryddfrydiaeth - Ideoleg sydd yn dadlau bod yr economi'n gweithio'n fwy effeithlon os bydd marchnad cwbl rydd, heb ymyrraeth neu rwystrau gan lywodraeth neu fonopoli.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Neoconservatism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Mai 2018.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.