Cred mewn uchafiaeth yr unigolyn dros grwpiau cymdeithasol yw unigolyddiaeth. Fel ideoleg mae'n gosod yr unigolyn yn ganolog i unrhyw ddamcaniaeth wleidyddol neu gymdeithasol. Yn ganolog i'r ideoleg yw'r cred bod bodau dynol yn naturiol yn hunanlesol ac yn hunan-ddibynnol.[1]

Cysylltir unigolyddiaeth â rhyddfrydiaeth glasurol, ac yn yr oes fodern y Dde Newydd. Yn aml enghreifftir yr agwedd unigolyddol gan ddywediad enwog Margaret Thatcher, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig (1979–1990): "there is no such thing as society" ("does dim y fath beth â chymdeithas").[1]

Mae unigolyddiaeth yn groes i'r ideoleg o gyfunoliaeth.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Heywood, t. 196.

Ffynhonnell golygu

  • Heywood, Andrew. Politics (Palgrave Macmillan, 2007).