Riding Gogleddol Swydd Efrog

un o'r israniadau hanesyddol Swydd Efrog

Un o dri israniad hanesyddol Swydd Efrog, gogledd-ddwyrain Lloegr, oedd Riding Gogleddol Swydd Efrog (Saesneg: North Riding of Yorkshire). Rhwng 1889 a 1974 roedd yn sir weinyddol (enw swyddogol: County of York, North Riding).

Riding Gogleddol Swydd Efrog
Mathriding Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSwydd Efrog Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaRiding Gorllewinol Swydd Efrog, Riding Dwyreiniol Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.3378°N 1.4286°W Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad y Riding Gogleddol (coch) a gweddill Swydd Efrog (gwyrdd) yn Lloegr

Roedd yn ffinio â Riding Dwyreiniol Swydd Efrog a Riding Gorllewinol Swydd Efrog i'r de, Westmorland i'r gorllewin, a Swydd Durham i'r gogledd.

Ar ôl iddo gael ei ddiddymu ym 1974, daeth y rhan fwyaf o'r Riding Gogleddol yn rhan o sir an-fetropolitan newydd Gogledd Swydd Efrog, er bod peth o'i diriogaeth wedi'i drosglwyddo i Swydd Durham.