Siroedd gweinyddol Lloegr
Roedd siroedd gweinyddol Lloegr yn ardaloedd a ddefnyddiwyd i weinyddu llywodraeth leol o dan reolaeth cynghorau sir etholedig. Fe'u crëwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888 a buont yn gweithredu rhwng 1889 a 1974.
Cadwyd llawer o'r hen siroedd hanesyddol, ond rhannwyd sawl un yn ddau sir weinyddol neu fwy, pob un â'i gyngor sir ei hun.
- Rhannwyd Swydd Gaergrawnt yn Swydd Gaergrawnt ac Ynys Ely (Adunwyd y rhain ym 1965 pan grëuwyd Swydd Gaergrawnt ac Ynys Ely.)
- Rhannwyd Swydd Lincoln yn Parts of Holland, Parts of Kesteven a Parts of Linsey
- Rhannwyd Swydd Northampton yn Swydd Northampton a Soke of Peterborough
- Rhannwyd Suffolk yn Ddwyrain Suffolk a Gorllewin Suffolk
- Rhannwyd Sussex yn Ddwyrain Sussex a Gorllewin Sussex
- Rhannwyd Swydd Efrog yn Riding Dwyreiniol Swydd Efrog, Riding Gogleddol Swydd Efrog a Riding Gorllewinol Swydd Efrog
- Rhannwyd Middlesex yn Middlesex a Sir Llundain (Adunwyd y rhain ym 1965 pan grëuwyd Llundain Fwyaf.)
- (Wedyn, yn 1890) rhannwyd Hampshire yn Hampshire ac Ynys Wyth
Yn ogystal â'r siroedd gweinyddol, creodd Deddf Llywodraeth Leol 1888 59 o fwrdeistrefi sirol yn Lloegr a oedd yn rhedeg y dinasoedd a'r trefi mawr yn annibynnol ar y siroedd gweinyddol. Gyda threigl amser crëwyd 24 yn fwy o'r bwrdeistrefi hyn.
Diddymwyd y siroedd gweinyddol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a chawsant eu disodli gan y system bresennol o siroedd metropolitan a siroedd an-fetropolitan.
Y siroedd gweinyddol 1965–1974
golygu- Northumberland
- Swydd Durham
- Westmorland
- Cumberland
- Swydd Gaerhirfryn
- Riding Gorllewinol Swydd Efrog
- Riding Gogleddol Swydd Efrog
- Riding Dwyreiniol Swydd Efrog
- Parts of Lindsey, Swydd Lincoln
- Parts of Holland, Swydd Lincoln
- Parts of Kesteven, Swydd Lincoln
- Swydd Nottingham
- Swydd Derby
- Swydd Gaer
- Swydd Amwythig
- Swydd Stafford
- Swydd Warwick
- Swydd Gaerlŷr
- Rutland
- Swydd Northampton
- Swydd Huntingdon a Peterborough
- Swydd Gaergrawnt ac Ynys Ely
- Norfolk
- Dwyrain Suffolk
- Gorllewin Suffolk
- Essex
- Swydd Hertford
- Swydd Bedford
- Swydd Buckingham
- Swydd Rydychen
- Swydd Gaerloyw
- Swydd Gaerwrangon
- Swydd Henffordd
- Wiltshire
- Berkshire
- Llundain Fwyaf
- Caint
- Dwyrain Sussex
- Gorllewin Sussex
- Surrey
- Hampshire
- Ynys Wyth
- Dorset
- Gwlad yr Haf
- Dyfnaint
- Cernyw