Gweddillion pentref Neolithig ar Ynysoedd Erch yn yr Alban yw Skara Brae. Saif ar arfordir gorllewinol ynys Mainland.

Skara Brae
Mathsafle archaeolegol, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCalon Ynysoedd Erch Neolithig Edit this on Wikidata
SirYnysoedd Erch Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd0.5 ha, 1,620 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau59.048714°N 3.34175°W Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolOes Newydd y Cerrig Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Credir fod y pentref yn cael ei ddefnyddio yn y cyfnod 3100-2500 CC. Yn ddiweddarach, gorchuddiwyd adfeilion y tai gan dywod, ac ni chafwyd hyd iddynt eto hyd y 1850au. Bu cloddio archaeolegol yma dan Gordon Childe rhwng 1928 a 1930. Gan nad oedd fawr o goed ar Ynysoedd Erch, adeiladwyd popeth o gerrig, yn cynnwys y dodrefn.

Gyda Maes Howe, Meini Stenness a Cylch Brodgar, mae Skara Brae yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd a ddynodwyd gan UNESCO yn 1999 dan yr enw Calon Ynysoedd Erch Neolithig. Rheolir y safle gan Historic Scotland.

Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato