Meini Stenness
Meini hirion yn Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Meini Stenness (Saesneg: Stones of Stenness). Safant ar ynys Mainland gerllaw'r Loch of Stenness.
Math | safle archaeolegol, meingylch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Calon Ynysoedd Erch Neolithig |
Sir | Ynysoedd Erch |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 0.8 ha |
Cyfesurynnau | 58.9939°N 3.2081°W |
Cyfnod daearegol | Oes Newydd y Cerrig |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Ffurfia'r meini gylch cerrig 30 medr ar draws. Yn wreiddiol roedd 12 maen, ond dim ond pedair sy'n sefyll heddiw. Maent yn dyddio o'r cyfnod Neolithig, rywbryd yn y 3g CC.
Gyda Maes Howe, Skara Brae a Cylch Brodgar, mae Meini Stenness yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd a ddynodwyd gan UNESCO yn 1999 dan yr enw Calon Ynysoedd Erch Neolithig. Rheolir y safle gan Historic Scotland.