Solomon, hen ffurf Gymraeg Selyf a hefyd Salmon (Hebraeg: שלמה, "Shlomo", Arabeg: سليمان"Süleyman"), oedd brenin teyrnas unedig Israel yn ystod ei Hoes Aur. Teyrnasodd o tua 975 CC neu 970 CC hyd 925 CC. Yn ôl yr Hen Destament, ef oedd yn gyfrifol am adeiladu'r deml gyntaf yn Jeriwsalem, Teml Solomon.

Y brenin Solomon; llun o'r Siahnama o Bersia

Roedd Solomon yn fab i'r brenin Dafydd a'i wraig Bathseba. Roedd yn enwog am ei ddoethineb a'i gyfoeth. Fodd bynnag, roedd anfodlonrwydd ynghylch y trethi uchel a godai ar y wlad, ac wedi ei farwolaeth, ymrannodd y deyrnas yn ddwy ran, Israel a Jiwda.

Yn draddodiadol, priodolir Caniad Solomon iddo, ond ystyrir bod y gwaith yma yn deillio o gyfnod diweddarach.