Roedd Bathseba yn wraig i Ureias* yr Hethiad ac yn ddiweddarach i Dafydd Frenin, yn ôl yr Hen Destament. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am y naratif Beiblaidd lle gwysiwyd hi gan y Brenin Dafydd, a oedd wedi ei gweld yn ymolchi ac yn ei chwenychu hi. Hi oedd mam Solomon, a olynodd Dafydd yn frenin. Roedd hi hefyd yn un o hynafiaid yr Iesu [1] Ystyr ei henw yw merch y llw.[2]

Bathseba
Ganwydc. 1009 CC Edit this on Wikidata
Giloh Edit this on Wikidata
Bu farwc. 937 CC Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymeriad Beiblaidd
Galwedigaethbrenhines gydweddog Edit this on Wikidata
Swyddmam y frenhines Edit this on Wikidata
TadElïam Edit this on Wikidata
PriodUreias yr Hethiad, Dafydd Edit this on Wikidata
PlantSolomon, Nathan, Sobab Edit this on Wikidata
LlinachCyff Dafydd Edit this on Wikidata

*Nodyn yn y Beibl Cymraeg Newydd sillafir ei enw fel Ureia

Naratif Beiblaidd golygu

Roedd Bathseba yn ferch i Elïam (2 Samuel 11:3 [3]). Yn 1 Cronicl sillafir ei henw hi fel Bathsua a'i thad fel Ammiel [4]. Roedd hi'n wraig i Ureias yr Hethiad, milwr ym myddin Dafydd.

Disgrifir rhyngweithiadau cyntaf Dafydd â Bathseba yn 2 Samuel 11,[5] ac fe'u hepgorir yn Llyfrau'r Croniclau. Wrth gerdded ar do ei balas, gwelodd Dafydd ddynes hardd iawn yn ymolchi. Gwnaeth ymholiadau i ganfod pwy oedd hi a darganfod mai Bathseba, gwraig Ureias, oedd hi. Cafodd chwantau rhywiol amdani a'i galw i ddod ato i'w balas. Mae Dafydd a Bathseba yn cael cyfathrach rywiol ac mae hi'n dod yn feichiog gyda phlentyn y Brenin.[6]

Mewn ymdrech i guddio ei bechod, gwysiodd Dafydd Ureias o'r fyddin (a oedd ynghanol ymgyrch milwrol ar y pryd) yn y gobaith y byddai Ureias yn cael rhyw gyda'i wraig a chredu mai ef oedd yn gyfrifol am feichiogi Bathseba. Ond roedd Ureias yn anfodlon torri'r traddodiad milwrol o beidio cael rhyw ar adeg ymgyrch milwrol ac o aros gyda'r fyddin a'r creiriau sanctaidd byddai'n bresennol mewn ymgyrch. Yn hytrach na mynd adref i'w wely ei hun, roedd yn well ganddo aros gyda milwyr y palas. Wedi i bob ymdrech i gael Ureias i gysgu gyda'i wraig methu, ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, arweinydd y fyddin, a'i anfon gydag Ureias yn ôl i faes y gad. Roedd y llythyr yn gorchymyn bod Joab yn rhoi Ureias ar flaen y gad lle'r oedd y frwydr yn boethaf ac yna i gilio'n ôl oddi wrtho, er mwyn iddo gael ei daro'n farw. Lladdwyd Ureias a phriododd Dafydd â Bathseba.[7]

Roedd gweithred Dafydd yn ddrwg yng ngolwg Duw. Anfonodd Duw Nathan y proffwyd i geryddu’r brenin. Mae Nathan yn adrodd hanes am ddyn cyfoethog oedd a llawer o ddefaid a gwartheg yn cymryd unig oen ei gymydog tlawd.[8] Mae dicter y brenin yn erbyn gweithred anghyfiawn yn cael ei gyffroi. Yna cymhwysodd y proffwyd yr achos yn uniongyrchol i weithred Dafydd parthed Bathseba. Cyfaddefodd y brenin ei bechod ar unwaith a mynegodd edifeirwch diffuant. Cafodd plentyn cyntaf Bathseba gan Dafydd ei daro â salwch difrifol a bu farw, yn ddienw, ychydig ddyddiau ar ôl ei eni, a derbyniodd y brenin hwn fel ei gosb. Nododd Nathan hefyd y byddai tŷ Dafydd yn cael ei gosbi am lofruddiaeth Ureias.

Yn ddiweddarach, esgorodd Bathseba ar fab Dafydd, Solomon. Yn henaint Dafydd, sicrhaodd Bathseba, yn seiliedig ar addewid Dafydd, yr olyniaeth i’r orsedd i Solomon, yn lle meibion hynaf Dafydd gan ei wragedd eraill a oedd wedi goroesi, megis Chileab [9], Adoneia [10] ac eraill. Daeth cosb Dafydd i ben flynyddoedd yn ddiweddarach pan arweiniodd un o hoff feibion Dafydd, Absalom, wrthryfel a blymiodd y deyrnas i ryfel cartref. Ar ben hynny, i amlygu ei honiad am y frenhiniaeth, cafodd Absalom gyfathrach rywiol yn gyhoeddus gyda deg o ordderch wragedd ei dad, y gellid ei hystyried fel cosb ar Dafydd am gymryd gwraig dyn arall yn y dirgel.[11].

Goroesodd Bathsiba Dafydd ei gŵr a bu farw yn ystod teyrnasiad Solomon ei fab.[12]

Islam golygu

Yn ogystal â bod yn ffigwr pwysig yn y Beibl Hebraeg / Yr Hen Destament Cristnogol mae Dafydd hefyd yn cael ei ystyried yn broffwyd Islam. Gan fod Islam yn credu bod yr holl broffwydi yn anffaeledig mae'r syniad bod Dafydd wedi pechu trwy ladd Useias er mwyn cael Bathseba yn cael ei wrthod ganddynt. Credant bod Ureias wedi marw yn y frwydr heb ymyrraeth y Brenin.[13]

Darluniau golygu

Ynghyd ag Efa, Bathseba oedd yr unig fenyw bron y gellid cyfiawnhau ei darlunio yn noethlymun yn hawdd ac yn rheolaidd mewn celf Gristnogol, ac felly mae hi'n ffigwr pwysig yn natblygiad y darlun noethlymun mewn celf ganoloesol. Er ei fod weithiau'n cael ei ddangos mewn dillad ar adegau eraill yn ei stori, y darlun mwyaf cyffredin, mewn celf ganoloesol a diweddarach, oedd Bathseba yn ei baddon, dyma rai luniau ohoni trwy'r oesoedd:

Arlunydd Dyddiad Cyfrwng Darlun Arlunydd Dyddiad Cyfrwng Darlun
Hans Memling 1485 Olew ar banel
 
Hendrik van Baelen 16 g Olew ar banel
 
Domenico Riccio 1552 Olew ar banel
 
Jacopo Zucchi ar ôl 1573 Olew ar banel
 
Cornelis van Haarlem 1594 Olew ar gynfas
 
Hans von Aachen tua 1612-1615 Olew ar banel
 
Rembrandt tua 1645 Olew ar banel
 
Jan Steen tua 1665 - 70 Olew ar banel
 
Sebastiano Ricci 1725 Olew ar gynfas
 
François Boucher 1750 Olew ar gynfas
 
Louis-Jean-François Lagrenée 1770 Olew ar gynfas
 
David Wilkie 1815 Olew ar gynfas
 
Paul Cézanne Olew ar gynfas 1885-90
 
Alexander Andreyevich Ivanov 19g Dyfrlliw ar bapur
 
Franz Stuck 1913 Olew ar gynfas
 
Alfréd Justitz Cyn 1934
 

Cyfeiriadau golygu

Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net

Gweler hefyd golygu

Rhestr o fenywod y Beibl