Canwr Belgaidd yw Tom Dice (ganwyd Tom Eeckhout). Enillodd fe'r ail safle ar fersiwn Fflemeg The X Factor yn 2008. Cynrychiolodd Dice ei famwlad yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2010.

Tom Dice
Ganwyd25 Tachwedd 1989 Edit this on Wikidata
Eeklo Edit this on Wikidata
Label recordioQ2185545, Universal Music Group, Armada Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Belg Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, gitarydd Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.sonicangel.com/artist/tomdice Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Dysgodd Dice i chwarae'r gitâr pan oedd e'n blentyn, ac ysgrifennodd ganeuon ei hun cyn ymuno â'r grŵp The Dice, Tom Eeckhout Dice oedd ei enw llwyfan. Yn 2008 cystadlodd Dice yn yr X Factor Fflandrys a, gyda'i hyfforddwr Maurice Engelen, daeth e'n ail yn y gystadleuaeth. Ar ôl X Factor, ymunodd Dice â'r label recordio SonicAngel, yr artist cyntaf y label, ac o dan ei enw llwyfan, Tom Dice, rhyddhaodd ei sengl gyntaf sydd yn fersiwn acwstig o "Bleeding Love" gan Leona Lewis. Enillodd y sengl safle 7 yn y siart Fflandrys ac arhosodd y gân yn y siart am 14 wythnos. Rhyddhaodd Dice ei albwm cyntaf, Teardrops, ar 30 Ebrill 2010.

Eurovision 2010 golygu

Ar 25 Tachwedd 2009, dewiswyd Dice gan ddarlledwr Fflemeg Vlaamse Radio - en Televisieomroep (VRT) i gynrychioli Gwlad Belg yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2010 yn Oslo, Norwy. Roedd ymateb cymysg yng Ngwlad Belg i'r dewis oherwydd oedd y dewis yn fewnol.[1]

Cyhoeddwyd y gân i Eurovision Tom Dice, "Me and My Guitar", ar 7 Mawrth 2010, ysgrifennodd Ashley Hicklin, Jeroen Swinnen a Dice y gân. Enillodd y gân rhif un yng Ngwlad Belg, yn y siart iTunes ac yn y siart swyddogol.[2] Perfformiodd Dice yn y rownd gynderfynol cyntaf yn Oslo ar 25 Mai 2010. Enillodd y rownd ac aeth ymlaen i'r rownd derfynol, yr artist cyntaf o Wlad Belg i wneud hyn ers Eurovision 2004. Gorffennodd Dice gyda safle chweched, un o'r lleoliadau golau Gwlad Belg yn y gystadleuaeth.

Disgyddiaeth golygu

Albymau golygu

Blwyddyn Albwm Lleoliadau siart
BEL
(FFLA)
BEL
(WAL)
2010 Teardrops[3]
  • Rhyddhawyd: Ebrill 30, 2010
  • Genre: Pop
  • Label: SonicAngel
  • Fformat: CD, Digidol
13

Senglau golygu

Blwyddyn Sengl Lleoliadau siart[4] Albwm
BEL
(FLA)
BEL
(WAL)
2009 "Bleeding Love"[5] 7 Teardrops
2010 "Me and My Guitar"[6] 1 18

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu