Mae Thomas "Tommy" Vercetti yn gymeriad ffuglennol, ef yw'r prif gymeriad sy'n cael ei reoli gan y chwaraewr yn y gêm fideo Grand Theft Auto: Vice City. Ray Liotta sy'n lleisio'r cymeriad.[1]

Tommy Vercetti
Tommy yn ei grys Hawaii
Ganwyd1 Mawrth 1952 Edit this on Wikidata
Liberty City Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethdeliwr cyffuriau, milwr, mobster, llofruddiwr Edit this on Wikidata

Ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar, mae Tommy yn cytuno i gymryd rhan mewn dêl cyffuriau ar gyfer pennaeth y gang roedd yn aelod ohoni cyn ei garcharu. Wrth i arian a chyffuriau newid llaw mae grŵp o droseddwyr eraill yn ymosod arno a'i griw ac yn dwyn yr arian a'r cynnyrch. Wrth geisio canfod pwy oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad mae Tommy yn codi drwy rengoedd isfyd troseddol dinas Vice City. Wedi iddo ganfod a lladd y sawl bu'n gyfrifol am yr ymosodiad mae Tommy yn dod yn bennaeth y gang sy'n rhedeg gangiau troseddol y ddinas.

Dylunio cymeriad golygu

Mae Tommy yn ŵr Americanaidd o dras Eidalig. Mae'n cael ei bortreadu fel gŵr tal, tywyll ei bryd, gydag ymddangosiad hardd, mae ganddo wallt brown tywyll, bron yn ddu gyda chysgod angen eillio parhaus ar ei ên. Mae'n ymddangos ar ddechrau'r gêm yn gwisgo crys Hawaii gwyrdd gyda phrint coed palmwydd glas wedi argraffu arno. Mae'n gwisgo mwclis o amgylch ei wddf, oriawr aur ar ei arddwrn chwith, pâr o jîns glas a daps gwyn. Y wisg hon yw dillad "stryd" Tommy. Wrth i'r gêm mynd yn ei flaen, mae cwpwrdd dillad Tommy yn ehangu. Yn y dasg gyntaf mae'n rhaid iddo newid i siwt er mwyn mynd i barti. Mae'n cael gwisg chware golff, gwisg heddwas a gwisg lladrata banc ym mysg eraill. Mae'r gwisgoedd yn caniatáu iddo gael mynediad i lefydd lle na fyddai'n cael hawl mynediad yn ei wisg stryd, megis swyddfa'r heddlu. Mae newid wisg hefyd yn fodd i osgoi'r heddlu pan fo'r heddlu ar ei ôl.

Mewn sawl ffordd mae Tommy Vercetti yn rhannu nodweddion gyda'r arglwydd cyffuriau ffuglennol Tony Montana o'r ffilm o 1983 Scarface. Ymhlith y nodweddion hyn, mae ei alltudiad o'i hen gartref Liberty City. Cynnydd ei rym a'i dylanwad (caffael eiddo a chyfoeth yn y ddinas, a phlasty sydd yn debyg i du mewn un o blastai Montana). Mae Tommy hefyd yn llofruddio am arian, yn lladd ei gydweithwyr (Lance Vance), yn meddiannu busnes ei fos dros dro (Ricardo Diaz) ac yn gwrthryfela yn erbyn ei gyn pennaeth (Sonny Forelli), fel mae Tony Montana yn y ffilm. Yr unig wahaniaeth nodedig yw bod y frwydr olaf ym mhlasty Montana yn arwain at ladd Montana, tra bod y frwydr olaf ym mhlasty Tommy yn gweld Tommy yn llwyddo i drechu ei elynion ac i oroesi.[2]

Nodweddion golygu

Mae Tommy Vercetti yn cael ei bortreadu fel dyn deallus ac anwadal; mae'n hawdd ei wylltio ac yn gyflym i droi at drais. Nid oes ganddo unrhyw bryderon am ladd, er bod llawer o'i elynion yn eu tro, yn ceisio lladd Tommy. Er gwaethaf hyn mae Tommy hefyd yn dangos ochr meddalach i'w gymeriad fel y gwelir yn ei berthynas gyda Mercedes Cortez ac Earnest Kelly.

Bywgraffiad golygu

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Tommy Vercetti yn Liberty City i deulu o dras Eidalaidd, roedd ei dad yn gadw siop argraffu.[3] Pan oedd yn ei arddegau daeth yn gyfeillgar efo Sonny Forelli, a dechreuodd weithio ar gyfer ei syndicâd troseddol gan ennill parch ac ymddiriedaeth y teulu Forelli.[4]

Ym 1971 yn ninas Liberty City cafodd Tommy ei orchymyn gan Sonny i ladd arweinydd gang oedd yn cystadlu yn erbyn teulu Forelli. Wrth gyraedd ardal Harwood lle roedd y cystadleuydd yn llechu ymosodwyd ar Tommy gan un ar ddeg o ddynion. Lladdodd Tommy pob un ohonynt a chafodd ei garcharu am eu llofruddio.[5] Cafodd ei ddedfrydu i'r gosb eithaf ond trwy ddylanwad cyfreithwyr llwgr teulu Forelli cafodd ei ryddhau ar ôl 15 mlynedd. Wedi lladd y gang o ddynion yn Harwood enillodd Tommy'r llysenw "The Harwood Butcher".

Rhyddhau o'r carchar golygu

Wedi cael ei draed yn rhydd o'r carchar mae Tommy yn awyddus i ail ddechrau gweithio i Deulu Forelli. Mae Sonny yn poeni byddai presenoldeb Tommy yn Liberty City yn achosi problemau i fusnes y teulu gan fod ei drosedd yn dal i gael ei gofio yno. Mae Sonny yn ei ddanfon i Vice City i gymryd rhan mewn dêl cyffuriau. Mae Sonny hefyd am iddo ehangu busnes y syndicâd yn y de ac i aros yno am gyfnod i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer busnesau da.

Mae Tommy yn cyrraedd y dêl cyffuriau fel goruchwyliwr rhwng teulu Forelli a Theulu Vance, teulu troseddol sy'n weithgar yn y ddinas. Mae grŵp o ymosodwyr sydd wedi bod yn cuddio yn dechrau saethu atynt, gan ladd Victor Vance (prif gymeriad y gêm Vice City Stories) a dau o ddynion Forelli. Mae'r cyffuriau a'r arian i dalu amdanynt yn cael ei ddwyn. Mae Tommy a Ken Rosenberg, cyfreithiwr a chyswllt Tommy yn y ddinas yn llwyddo i ffoi. Mae Tommy yn rhoi addewid i Sonny y bydd yn adennill y cyffuriau a'r arian ac yn dial ar y sawl oedd yn gyfrifol. Mae Tommy yn cyfarfod â Lance Vance, brawd Victor ac yn dechrau gweithio i farwn cyffuriau mwyaf pwerus Vice City, Ricardo Diaz (sy'n cael ei ddatgelu yn ddiweddarach yn y gêm i fod yn gyfrifol am yr ymosodiad ar y ddêl).

Mentrau busnes golygu

Wedi canfod mae Diaz oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar y dêl cyffuriau mae Tommy a Lance yn arwain cyrch ar ystâd Diaz ac yn ei ladd. Mae Tommy yn penderfynu rheoli cyn busnesau Diaz ei hun yn hytrach nag ar ran Deulu Forelli sy'n cynddeiriogi Sonny ac yn creu anghydfod rhwng y ddau gangster. Mae anghydfod hefyd yn codi rhwng Tommy a Lance, sydd am fwy o barch gan Tommy a hefyd fwy o reolaeth dros y busnesau. Mae'r gwrthdaro â Theulu Forelli yn cyrraedd pwynt berwi pan fydd Tommy yn lladd henchmen Forelli a anfonwyd i atafaelu refeniw o'i fusnesau. Mae Sonny yn penderfynu ymweld â Vice City i ddelio gyda Tommy ei hun. Mae Lance yn bradychu Tommy trwy gynorthwyo Sonny ac mewn brwydr waedlyd mae Tommy yn lladd Lance, Sonny a chriw Forelli gan ddiogelu ei ymerodraeth busnes yn y ddinas gyda Ken Rosenberg yn bartner iddo. Yn ystod y frwydr mae Tommy yn dysgu mae Sonny oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad arno yn Harwood a arweiniodd at ei garcharu.[6]

Erbyn diwedd y gêm mae Tommy wedi dod yn ffigur pwerus iawn yn isfyd troseddol Vice City. Mae wedi sefydlu Teulu Vercetti fel prif syndicâd y ddinas, mae'n byw mewn plasty anferth. Mae'n rhedeg llawer o fusnesau cyfreithiol fel ffrynt i'w gweithgareddau troseddol ac mae ganddo rôl flaenllaw ym masnach cyffuriau sefydledig Vice City.

Derbyniad golygu

Derbyniodd cymeriad Tommy Vercetti adolygiadau a sylwadau cadarnhaol iawn gan feirniaid a chwaraewyr Vice City, gan gael ei gynnwys ar nifer o restrau o'r cymeriadau gorau mewn gêm fideo. Fe'i cynhwyswyd ar restr IGN o Grand Theft Auto Favorite Badasses. Dywedon nhw "gymaint ag oeddem ni'n edmygu'r cymeriadau cryf a thawel, erbyn i Vice City dod allan, roeddem yn barod i gael prif gymeriad efo mwy o gig. Cawsom hynny gyda Tommy Vercetti yn ei grys Hawaiaidd." Hefyd, gosododd Crave Online Tommy yn ail ar eu 10 uchaf o gymeriadau GTA mwyaf cofiadwy, gan nodi bod chwarae ei gymeriad yn "chwa o awyr iach".[7] Yn 2008, fe enwebodd The Age Vercetti fel y 29ain cymeriad Xbox gorau erioed, a chanmolwyd llais Ray Liotta yn actio'r cymeriad gan ddweud "tra bod riffiau cymeriad Tony Montana trwy gydol y gêm, mae areithiau Liotta yn rhoi synnwyr digrifwch di-hid iddo sy'n ei gwneud yn fwy hoffus na'r hen Scarface."[8] Enillodd Liotta y wobr am "Weithgaredd Byw Gorau / Perfformiad Llais gan Ddyn" yng Ngwobrau G-Phoria 2003 a "Pherfformiad Gorau gan Ddyn" yng Ngwobrau Gêm Fideo Spike 2003 am ei waith fel Vercetti.[9][10]

Gosododd GameDaily Tommy mewn rhestr o'r 25 gwrth arwyr gêm fideo gorau, gan ei osod yn y nawfed safle, ac yn canmol portread Liotta am drawsnewid y cymeriad o thyg generig i "dyn caled oedd yn rheoli'r 80au."[11] Gosododd PlayStation Beyond ef yn ail yn eu 5 gwrth-arwr gorau mewn gemau, gan ddweud "Y cyfan yr ydym yn ei wybod am Tommy Vercetti [...] yw ei fod yn mobster sydd newydd ddod allan o'r carchar, gan ei wneud i edrych yn fwy tebyg i ddihiryn, ac yn ei wneud yn un o'r cymeriadau mwyaf gwrth arwrol o Grand Theft Auto.[12] Gosododd The Telegraph Tommy yn y nawfed safle ar eu rhestr o'r 10 prif wrth arwr mewn gêm fideo gan ddweud "gallwn wedi llenwi'r rhestr gyda brif gymeriadau allan o brif gymeriadau GTA ond wedi dewis y fwyaf anfoesol o'r cyfan ". [13] Rhoddodd UGO Networks Vercetti yn 23 allan o'r 25 Eidalwr mwyaf cofiadwy mewn gêm fideo.[14] a rhoddodd Game Informer ef ymysg "Y 30 Cymeriad a Diffiniodd Degawd".[15] Yn 2013 rhoddodd Complex Vercetti yn yr wythfed safle "12 Cymeriad Fideo o'r Hen Ysgol Oedd yn Eiconau Ffasiwn".[16]

Cyfeiriadau golygu

  1. McLaughlin, Rus; Thomas, Lucas M. (3 Gorffennaf 2012). "IGN Presents The History of Grand Theft Auto". IGN. Cyrchwyd 17 Ebrill 2013.
  2. O'Neill, Cliff. "Examining Grand Theft Auto's Scarface Connection". Game Chronicles. Cyrchwyd 29 Mawrth 2008.
  3. Rockstar North (29 Hydref 2002). Grand Theft Auto: Vice City. PlayStation 2. Rockstar Games. Mission: "Spilling the Beans"
    Earnest Kelly: "Mr. Vercetti? Hey. You bought the old print works?" / Tommy Vercetti: "Yeah, my old man used to work on these [printing machines]... I used to spend the evenings with him, cleaning the rollers. I was going to follow him in his trade, but... I lived a different life."
  4. Scheeden, Jesse (28 Ebrill 2008). "Grand Theft Auto: Favorite Badasses". IGN. Cyrchwyd 20 Ebrill 2013.
  5. Rockstar North (29 Hydref 2002). Grand Theft Auto: Vice City. PlayStation 2. Rockstar Games. Mission: "Keep Your Friends Close..."
    Sonny Forelli: "Didn’t I say your temper would get you into trouble, huh?...How many was it? Ten? No, eleven men. That’s how you get to be called the Harwood Butcher!" / Tommy Vercetti: "You sent me to kill one man, ONE MAN. They knew I was coming Sonny..."
  6. Rockstar North (29 Hydref 2002). Grand Theft Auto: Vice City. Playstation 2. Rockstar Games. Mission: "Keep Your Friends Close..."
    Tommy: You took fifteen years from me, Sonny, and now I'm gonna make you pay!
    Sonny: You still don't get it, do you? I OWN you, Tommy. Those fifteen years were mine to spend!
  7. Tamburro, Paul (2 Tachwedd, 2012). "Top 10 Most Memorable GTA Characters". PlayStation Beyond. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-20. Cyrchwyd 21 Ebrill 2013. Check date values in: |date= (help)
  8. "The Top 50 Xbox Characters of All Time". The Age. 30 Medi 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-15. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2013.
  9. "G-Phoria Report". IGN. 31 Gorffennaf 2003. Cyrchwyd 15 Mehefin, 2014. Check date values in: |access-date= (help)
  10. "Video Game Awards The Results". megagames. Rhagfyr 5, 2003. Cyrchwyd Mehefin 15, 2014.
  11. Buffa, Chris. "Top 25 Anti-Heroes Gallery and Images". Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ebrill 27, 2009. Cyrchwyd Mehefin 8, 2013.
  12. Ivanov, Denis (Hydref 22, 2010). "Top 5 anti heroes in gaming". PlayStation Beyond. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-29. Cyrchwyd Ebrill 21, 2013.
  13. Cowen, Nick; Hoggins, Tom (Medi 16, 2009). "Top 10 game anti-heroes". The Telegraph. Cyrchwyd Ebrill 21, 2013.
  14. "The 25 Most Memorable Italians in Video Games". UGO Networks. Awst 25, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Hydref 6, 2010. Cyrchwyd Gorffennaf 8, 2013.
  15. "The 30 Characters Who Defined A Decade" Game Informer 212 (Rhagfyr 2010): 61.
  16. Welch, Hanuman (Mai 23, 2013). "12 Old School Video Game Characters Who Were Style Icons". Complex. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-08. Cyrchwyd Gorffennaf 22, 2013.