Train des merveilles

Yng ngorsaf Nice yn Ffrainc gellir dal y "Train des merveilles" ("Trên y rhyfeddodau"), taith diddorol sy'n mynd trwy fynyddoedd cefnwlad Nice i Tende ac yna ymlaen i Cuneo yn yr Eidal.

Traphont Tende

Mewn tair man fe fydd y trên yn codi i lefel uwch mewn twnnel sy'n troi fel allwedd costrel yn y mynydd. Gellir prynu tocyn diwrnod a disgyn yn Tende. Ar ôl gwario ychydig amser yno, gellir dal y trên i Ventimiglia sy ar Riviera'r Eidal. Ar ôl ymweld â Ventimiglia gellir dal y trên lleol neu'r T.G.V. yn ôl i Nice. Mae'r lein hon yn rhedeg drwy Monaco a ger y traethau.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.