Liguria
Rhanbarth yng ngogledd-orllewin yr Eidal yw Liguria neu weithiau yn Gymraeg Ligwria[1] lle mae'r Alpau a'r Appennini yn cyrraedd y Môr Canoldir. Genova yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf.
Math | rhanbarthau'r Eidal |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ligwriaid |
Prifddinas | Genova |
Poblogaeth | 1,550,640 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Giovanni Toti |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Nawddsant | Ioan Fedyddiwr |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 5,422 km² |
Uwch y môr | 250 metr |
Yn ffinio gyda | Piemonte, Emilia-Romagna, Toscana, Provence-Alpes-Côte d'Azur |
Cyfesurynnau | 44.45°N 8.7667°E |
IT-42 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Liguria |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Liguria |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Liguria |
Pennaeth y Llywodraeth | Giovanni Toti |
Mae Liguria wedi ei enwi ar ôl y Ligure, llwyth hynafol a gafodd eu difodi gan y Rhufeiniaid yn 122 CC.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,570,694.[2]
Rhennir y rhanbarth yn bedair talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:
Y Riviera
golyguGall yr enw Liguria fod yn gyfystyr â Riviera yr Eidal, sydd wedi'i rannu'n ddwy ran:
- Riviera di Ponente (arfordir machlud haul) yn daleithiau Imperia a Savona
- Riviera di Levante (arfordir codiad haul) yn daleithiau Genova a La Spezia
Hinsawdd Liguria
golygu- Prif: Hinsawdd y Riviera
Mae hinsawdd arbennig ar Liguria gan ei fod ger y Môr Canoldir a gan fod y mynyddoedd sy'n union i'r gogledd yn ei gysgodi yn erbyn gwyntoedd oer y gaeaf.
Dinasoedd a threfi Liguria
golyguMae rhan fwyaf o threfi Liguria ar lan y môr ac ar y Via Aurelia, yr hen ffordd Rhufeinig sy'n rhedeg o Rhufain i Nimes yn Ffrainc.
(o'r gorllewin i'r dwyrain)
- Ventimiglia
- Bordighera
- San Remo
- Taggia
- Imperia (Porto-Maurizio)
- Diano Castello
- Albenga
- Finale Ligure
- Noli
- Savona
- Albissola Marina
- Genova
- Portofino
- Rapallo
- Chiavari
- Cinque Terre
- Vernazza
- Manarola
- Riomaggiore
- Portovenere
- La Spezia
- Lerici
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [Liguria].
- ↑ City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020