Y Gwarchodlu Farangaidd

Mintai elît o'r Fyddin Fysantaidd oedd y Gwarchodlu Farangaidd (Groeg: Τάγμα τῶν Βαράγγων trawslythreniad: Tágma tōn Varángōn) a wasanaethodd yn warchodlu personol i ymerodron yr Ymerodraeth Fysantaidd o'r 10g i'r 14g. Câi'r llu ei recriwtio o Ogledd Ewrop, yn bennaf Llychlynwyr—a elwid Farangiaid yn Nwyrain Ewrop—ond hefyd rhai Eingl-Sacsoniaid o Loegr.

Y Gwarchodlu Farangaidd
Enghraifft o'r canlynoluned filwrol, teitl anrhydeddus Edit this on Wikidata
Mathimperial guard Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu988 Edit this on Wikidata
SylfaenyddBasileios II Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darluniad o'r Gwarchodlu Farangaidd (ar hyd ben y llun) mewn llawysgrif goliwiedig o Gronicl Ioannes Skylitzes o'r 11g

Daeth yr hurfilwyr Llychlynnaidd cyntaf i Gaergystennin i wasanaethu'r Ymerawdwr Mihangel III yng nghanol y 9g. Sefydlwyd y Gwarchodlu Farangaidd yn uned benodol, ar wahân yn 988, pan recriwtiodd yr Ymerawdwr Basileios II filwyr Llychlynnaidd o Vladimir I, Tywysog Novgorod ac Uchel Dywysog Kyiv. Un o'r aelodau enwocaf o'r gwarchodlu oedd Harald Hardrada, Brenin Norwy. Wedi'r goncwest Normanaidd yn Lloegr yn 1066, aeth nifer o Eingl-Sacsoniaid yn alltud i'r dwyrain, gan ymaelodi â'r Gwarchodlu Farangaidd. Parhaodd y gwarchodlu hyd at gwymp yr Ymerodraeth Fysantaidd i'r Bedwaredd Groesgad ym 1204.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Katherine Holman, Historical Dictionary of the Vikings (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2003), tt. 275–6.