Eingl-Sacsoniaid

llwyth o bobl a ddechreuodd fewnfudo i rannau Ynys Prydain o'r 6g ymlaen

Eingl-Sacsoniaid yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at y grwpiau o bobloedd Germanaidd a ymsefydlodd yn ne a dwyrain Prydain o'r 5g ymlaen gan raddol ddisodli'r Brythoniaid (pobloedd Celtaidd) brodorol. Fel enw mae'n gymharol ddiweddar ac, fel y gair 'Celtiaid', doedd o ddim yn cael ei ddefnyddio gan y bobloedd hynny eu hunain.

Eingl-Sacsoniaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
Mathllwyth, Germaniaid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tiriogaethau Prydain 500-700

Ffurfiwyd yr Eingl-Sacsoniaid o sawl llwyth, sef y Sacsoniaid, yr Eingl, y Ffrisiaid a'r Jiwtiaid. Ar y dechrau, ffurfiodd y llwythau hyn nifer o fân deyrnasoedd annibynnol ar dir a enillwyd oddi wrth y teyrnasoedd Brythonaidd brodorol. Y pennaf o'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd hyn oedd Deifr (Northumbria), Mersia a Wessex. Mae hanes cynnar yr Eingl-Sacsoniaid yn frith â brwydrau ac ymgyrchoedd yn erbyn Gwŷr y Gogledd (teyrnasoedd Rheged, Manaw Gododdin, Elmet ac Ystrad Clud), y Cernywiaid a'r Cymry, ond yn ogystal roeddent yn ymladd â'i gilydd am rym. Teyrnas Wessex a lwyddodd i osod seiliau teyrnas Lloegr ar ôl torri grym Mersia yn 825 a chydnabyddir y brenin Alffred Fawr fel brenin cyntaf Lloegr unedig.

Rheolai'r brenhinoedd gyda chymorth y witan (cyngor o uchelwyr) a llysoedd lleol.

Paganiaid oedd yr Eingl-Sacsoniaid pan ddaethant i Brydain. Cawsant eu troi i'r Gristnogaeth gan Sant Awstin a anfonwyd gan y Pab Gregori I i Loegr yn 596. Hen Saesneg oedd eu hiaith. Yr arwrgerdd Beowulf yw'r gwaith mwyaf adnabyddus o lenyddiaeth Hen Saesneg.