Rhanbarth gogleddol cyfandir Ewrop yw Gogledd Ewrop sydd yn cynnwys gwledydd Llychlyn, ynysoedd Prydain Fawr ac Iwerddon, y gwledydd Baltig a gogledd-orllewin Rwsia. Weithiau cynhwysir yr Iseldiroedd a gogledd yr Almaen yn yr ardal hon, a weithiau cynhwysir Prydain ac Iwerddon yn rhan o Orllewin Ewrop yn hytrach na'r gogledd.

Diffiniad y Cenhedloedd Unedig o Ogledd Ewrop. (glas):      Gogledd Ewrop      Gorllewin Ewrop      Dwyrain Ewrop      De Ewrop
Llun o loeren o ogledd Ewrop

Yn ôl Adran Ystadegau'r Cenhedloedd Unedig, mae Gogledd Ewrop yn cynnwys 10 gwladwriaeth sofran: Denmarc, Estonia, y Ffindir, Gwlad yr Iâ, Gweriniaeth Iwerddon, Latfia, Lithwania, Norwy, Sweden, a'r Deyrnas Unedig. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys y tiriogaethau canlynol: Ynysoedd Åland (talaith ymreolaethol o'r Ffindir), Ynysoedd Ffaro (gwlad ymreolaethol o fewn Teyrnas Denmarc), Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel (trefedigaethau'r Goron Brydeinig), a Svalbard a Jan Mayen (ynysoedd sy'n rhan o Deyrnas Norwy).[1]

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.