Archettes
Mae Archettes (Almaeneg: Erzett) yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc[1]
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,107 |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 13.93 km² |
Uwch y môr | 338 metr, 505 metr |
Gerllaw | Afon Moselle |
Yn ffinio gyda | Jarménil, Pouxeux, Arches, La Baffe, Cheniménil, Épinal |
Cyfesurynnau | 48.1247°N 6.5347°E |
Cod post | 88380 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Archettes |
Poblogaeth
golyguLleoliad
golyguWedi'i leoli ar lan ddeheuol yr afon Moselle, mae Archettes yn wynebu cymuned Arches. Mae enwau’r ddwy gymuned yn deillio o’r gair Lladin Arculae, yn llythrennol ‘bwâu’, ac yn cyfeirio at fwâu pont oedd yn rhychwantu’r afon yn ystod cyfnod y Galaidd-Rufeinig. Roedd y bont yn sefyll tua 150 metr i'r de-orllewin o'r pentref presennol.
Safleoedd a Henebion
golygu- Eglwys y Plwyf wedi ei gysegru i Sant Leger, a ailadeiladwyd yng nghanol y 19g.
Mae’r eglwys yn cynnwys
- Delw o’r Forwyn Mair o tua 1520
- Allor faróc mewn pren euraid gyda chwe canhwyllbren
- Allor gydag arysgrif "Ecce Homo", amryliw a phren gilt, yn dyddio o'r 18 ganrif.
- Cerfluniau o St Anthony a St. Sebastian yn amryliw a phren aur, hefyd yn dyddio o'r 18 ganrif
- Olion cysegrfa Galaidd-Rufeinig i'r duw Mercher yng nghoedwig Tannières[2].
- Coeden o’r enw Derwen y Forwyn yng nghoedwig genedlaethol Tannières, lle cynhelir offeren arbennig ar 15 Awst bob blwyddyn.
- Brigiadau tywodfaen nodedig sydd yn dyddio o’r cyfnod Triasig sydd ar y ffordd rhwng Archettes ac Épinal
- Dyfroedd gwyllt yr Afon Moselle ger Bazimpré.
-
Eglise Saint-Léger
-
Cysegyrfa Mercher
Pobl enwog o Archettes
golyguJean-Baptiste Jacquot: Eglwyswr amlwg yng nghyfnod y Chwildro Ffrengig; ganwyd yn Archettes ym 1756[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ gwefan y gymuned adalwyd 7 Ebrill 2017
- ↑ Le temple de Mercure adalwyd 7 Ebrill 2017
- ↑ Biographie vosgienne adalwyd 7 Ebrill 2017