Afon Moselle
Afon sy'n llifo trwy Ffrainc, Lwcsembwrg a'r Almaen i lifo i mewn i afon Rhein yw afon Moselle (Ffrangeg: Moselle, Almaeneg: Mosel). Mae tua 545 km o hyd.
Math | afon |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Vosges, Saarland |
Gwlad | Ffrainc, yr Almaen, Lwcsembwrg |
Uwch y môr | 65 metr |
Cyfesurynnau | 47.8894°N 6.8928°E, 50.3661°N 7.6076°E |
Tarddiad | Moselle River Source |
Aber | Afon Rhein |
Llednentydd | Elzbach, Sauer, Lieser, Salm, Kyll, Alf, Esch, Rupt de Mad, Orne, Madon, Dhron, Ruwer, Afon Saar, Q1737191, Moselotte, Meurthe, Seille, Vologne, Q176585, Zewenerbach, Q232266, Altlayer Bach, Feller Bach, Fensch, Aspeler Bach, Q736615, Bibiche, Q858228, Q771615, Föhrenbach (Mosel), Q790398, Avière, Boler, Bouvades, Q924260, Brohlbach (Moselle), Noiregoutte, Niche, Q1019895, Canner, Durbion, Q1274190, Alkener Bach, Ehrbach, Gander, Endert, Q1344201, Q1374390, Euron, Sirzenicher Bach, Q1453420, Q1472567, Longuicher Bach, Q1526830, Hutte, Konderbach, Q1721179, Q1737192, Q1743598, Q1757596, Q1777862, Lamerey, Landwehrgraben (Mosel), Q1917503, Q1922237, Q1943430, Nothbach, Olewiger Bach, Q2357981, Sèchenat, Terrouin, Aalbach, Q2637189, Ingressin, Kiesel, Trey, Q17640436, Montenach |
Dalgylch | 28,286 cilometr sgwâr |
Hyd | 544 cilometr |
Arllwysiad | 315 metr ciwbic yr eiliad |
Ceir tarddle'r Moselle ar lethrau gorllewinol y Ballon d'Alsace ym mynyddoedd y Vosges. Llifa trwy drefi Épinal, Toul, Pont-à-Mousson, Metz a Thionville yn Ffrainc, Schengen, Remich, Grevenmacher a Wasserbillig yn Lwcsembwrg a Trier, Bernkastel-Kues a Cochem yn yr Almaen, cyn cyrraedd afon Rhein yn Koblenz.
Mae'r rhan o ddyffryn Moselle rhwng Nancy, Metz a Thionville yn Ffrainc yn ardal ddiwydiannol bwysig, tra mae'r dyffryn yn Ffrainc, yr Almaen a Lwcsembwrg yn enwog am ei win.