Archifau Powys

archif yng Ngymru

Archifau Powys yw'r swyddfa gofnodion ac archifau sy'n darparu gwasanaethau archifol i Gyngor Sir Powys. Wedi'i leoli yn Llandrindod, mae'r archif yn gyfrifol am gasglu, curadu a chadw, ac mae'n darparu mynediad i gofnodion am briodasau, hanes teulu, adeiladau a gwybodaeth arall sy'n ymwneud â'r sir ar gyfer ymchwil a defnydd personol.

Archifau Powys
Matharchif rhanbarthol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlandrindod Edit this on Wikidata
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.237467°N 3.373217°W Edit this on Wikidata
Cod postLD1 5LG Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyngor Sir Powys Edit this on Wikidata
Map

Mae'r archif yn gartref i gasgliadau sydd yn dyddio o'r 14eg ganrif ac maent ar gael i'r cyhoedd yn arlein neu yn yr ystafell ddarllen yn Llandrindod.

Hanes golygu

Sefydlwyd Archifau Sir Powys ym 1974 fel archif ar gyfer sir newydd Powys a'r tair hen sir, sef Sir Frycheiniog, Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed.[1] Mae ei gylch gwaith yn cynnwys casglu a chadw cofnodion sirol swyddogol, archifau hanesyddol lleol a chofnodion cyhoeddus perthnasol.

Lleolwyd yr Archifau yn wreiddiol gyda phrif swyddfeydd y Cyngor Sir yn hen Westy’r Gwalia, Llandrindod, cyn symud i safle newydd pwrpasol yn Neuadd y Sir yn 1990. Ond oherwydd diffyg gofod, ym mis Hydref 2017 symudodd yr archifau i'w cartref presennol mewn uned a addaswyd yn arbennig ar Heol Ddole.[2]

Casgliadau golygu

Mae'r archifau yn cadw nifer o gasgliadau hanesyddol pwysig yn ymwneud â hanes Powys. Mae'r rhain yn cynnwys cofnodion swyddogol fel dogfennau llys sirol a sirioldeb sydd wedi'u dyddio mor bell yn ôl â'r cyfnod Sacsonaidd, cofnodion ysbytai ac awdurdodau iechyd Sir Frycheiniog, Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed, a sir fodern Powys ymhlith eraill. Mae'r archif hefyd yn darparu mynediad i ffurflenni cyfrifiad o 1841 hyd 1911 [3] a chasgliad enfawr ar hanes tai, papurau newydd lleol, mapiau, cofnodion anghydffurfwyr, cofrestrau etholwyr, rhestrau rhydd-ddeiliaid a rheithwyr,[4] gan wneud yr archifau'n boblogaidd gydag ymchwilwyr hanes lleol a theuluol.

Yn 2004 darganfuwyd nifer o gofnodion brenhinol yn yr archifau, gan daflu goleuni ar arferion ffasiwn y Frenhines Fictoria a brenhinoedd Ewropeaidd eraill.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Powys Archives". Archives Hub. Cyrchwyd 2023-02-09.
  2. "Archive centre opened by Powys council leader". Brecon & Radnor Express. 2017-10-13. Cyrchwyd 2023-02-09.
  3. "Census Reports". Cyngor Sir Powys. Cyrchwyd 2023-01-12.
  4. "Public Records". Cyngor Sir Powys. Cyrchwyd 2023-02-09.
  5. "'Missing' royal records revealed". BBC News. 4 October 2004. Cyrchwyd 2023-02-09.

Dolenni allanol golygu