Llandrindod

tref a chymuned ym Mhowys

Tref a chymuned yng nghanolbarth Powys, Cymru, yw Llandrindod[1] (Saesneg: Llandrindod Wells). Tyfodd y dref yn y 19g pan gyrhaeddodd y rheilffordd, gan ddod â llawer o ymwelwyr i brofi'r dyfroedd arbennig o'r ffynhonnau sydd yn y dref (dyma pryd bathwyd yr enw Saesneg Llandrindod Wells, er mwyn denu rhagor o ymwelwyr "ffasiynol" i brofi rhin y dŵr).

Llandrindod
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,309 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBad Rappenau, Contrexéville Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2435°N 3.3855°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000293 Edit this on Wikidata
Cod OSSO055615 Edit this on Wikidata
Cod postLD1 Edit this on Wikidata
Map

Erbyn hyn mae Llandrindod yn gartref i Gyngor Sir Powys, sydd yn un o brif gyflogwyr y dref. Cynhelir nifer o gynadleddau yn y dref, gan bod cynifer o westai yn y dref a Phafiliwn sy'n addas ar gyfer digwyddiadau mawr.

Siop yn Llandrindod

Mae Cwm Y Gof (Saesneg: Rock Park) yn barc pert rhwng y dref ac Afon Ieithon. Yn y parc mae man uchel uwchben yr afon o'r enw "Llam Y Cariadon" (Saesneg: Lovers' Leap). Yn ôl hen chwedl, oddi yno y neidiodd dau oedd yn gariadon cudd.

Mae gan Landrindod hefyd lyn adnabyddus gydag ynys fechan yn ei ganol.

Cynhelir marchnad yn y dref bob dydd Gwener gerllaw yr orsaf drên. Ar ddydd Iau cynhelir marchnad ffermwyr yn Stryd Middleton ble gwerthir cynnyrch lleol. Ceir hefyd nifer o siopau bach annibynnol a dau archfarchnad yn y dref.

Mae gorsaf drên Llandrindod yn arhosfa ar Linell Calon Cymru, sy'n rhedeg o Abertawe i'r Amwythig.

Llandrindod gyda'r nos

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandrindod (pob oed) (5,309)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandrindod) (640)
  
12.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandrindod) (2387)
  
45%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandrindod) (1,215)
  
47%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.