Ardal Lywodraethol Ajlwn

gofernad yn Iorddonen

Mae Ardal Lywodraethol Ajlwn (Arabeg: محافظة عجلون; hefyd Ardal Lywodraethol Ajloun neu Gofernad Ajlwn) yn dalaith o Jordan, wedi'i lleoli i'r gogledd o'r prifddinas, Amman. Gofernad Ajlwn yw pedwerydd ardal lywodraethol dwysaf teyrnas Gwlad Iorddonen (ar ôl Ardaloedd Llywodraethol Irbid, Jerash a Balqa), gyda dwysedd o 313,3 person i bob cilometr sgwâr. Mae'r Gofernad yn ffinio â Jerash i'r de-ddwyrain a chyda dalaith Irbid i'r gogledd a'r gorllewin. Gellir meddwl am Ardal Lywodraethol Ajlwn fel rhyw fath o dalaith neu sir ond yn wahanol i'r mathau yno o lywodraethu, lle etholir arweinydd yr endid, gydag Gofernad mae'r pennaeth wedi ei apwyntio'n ganolog, yn sylfaenol gan Abdullah II, brenin Iorddonen.

Ardal Lywodraethol Ajlwn
MathArdaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
PrifddinasAjlwn Edit this on Wikidata
Poblogaeth181,000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen
Arwynebedd419.6 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArdal Lywodraethol Irbid Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.33694°N 35.75222°E Edit this on Wikidata
JO-AJ Edit this on Wikidata
Map
Mynyddoedd Gofernad Ajlwn
Dinas Al Wahadina
Perllan Olewydd ger dinas Ajlwn

Adrannau gweinyddol golygu

Mae Erthygl 14 o System Is-adrannau Gweinyddol y Weinyddiaeth Gartref yn rhannu Gofernad Ajlun yn ddau 'dosbarth' neu ilwa yn Arabeg:

1. Dosbarth Dinas Ajlwn: yn cynnwys 50 dinas a thref, gyda'i chanolfan weinyddol yn Ajlun
2. Dosbarth Kofranjah: yn cynnwys 19 tref a phentref, gyda'i ganolfan weinyddol yn Cofranja.

Demograffeg golygu

Poblogaeth y is-ddosbarthiadau yn ôl y cyfrifiad:[1]

Dosbarth Poblogaeth
(Cyfrifiad 1994)
Poblogaeth
(Cyfrifiad 2004)
Poblogaeth
(Cyfrifiad 2015)
Gofernad Ajlwn 94,548 118,725 176,080
Kufranjah 20,809 27,107 38,260
Qaṣabah (Dinas) 'Ajlūn 73,739 91,618 137,820

Y Gofernad golygu

Mae gan Ajlwn un o'r coedwigoedd harddaf yn yr Iorddonen, ac mae'n adnabyddus am ei gaeafau hir. Mae hefyd yn enwog am ei chastell (Castell Ajlwn), a'i enw blaenorol oedd "Alcalá Salá Aldim" (Qal'at Salah Ad-Dein). Adeiladwyd y castell fel garsiwn i amddiffyn Ajlwn, mewn daearyddiaeth strategol rhag y Croesgadwyr.

Mae'r dalaith yn uchel uwchben lefel y môr mae tymheredd cyfartalog uchaf yn ystod mis Ionawr yn 8.2C a lleiafrif cyfartalog yn 2.8. Ceir eira yn fynych yn yr ardal.

Economi golygu

Mae Talaith Ajlwn yn dibynnu'n bennaf ar amaethyddiaeth. Yn ôl Gweinyddiaeth Amaeth yr Iorddonen (yn ôl ystadegau 2008[2]) mae llwyni olewydd, gwinllannoedd a pherllannau ffrwythau yn ffurfio ardal o 141.4 km2, sef 34% o ardal y dalaith.

Trefi a dinasoedd mwyaf nodedig a phwysig Ajlwn (ac eithrio dinas Ajlwn ei hun) yw: Ain Jana, Kufranji, Anjara, Sacra, Ibbeen "Ebeen" a Hashmieh.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Jordan: Administrative Division, Governorates and Districts". citypopulation.de. Cyrchwyd 25 Rhagfyr 2016.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-03. Cyrchwyd 2019-05-01.

Dolenni allanol golygu