Ardal fetropolitan Kansas City
Mae ardal fetropolitan Kansas City yn ardal yn Unol Daleithiau America sy'n cynnwys 14 sir sy'n ymestyn dros y ffin rhwng taleithiau Kansas (5 sir) a Missouri (9 sir). Ei dinas fwyaf yw Dinas Kansas, Missouri. Y prif ddinasoedd eraill yw Dinas Kansas, Kansas, Overland Park, Kansas, a Lenexa, Kansas.
![]() | |
Math | metropolitan statistical area ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,192,035 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Missouri, Kansas ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 20,596 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 39.1°N 94.58°W ![]() |
![]() | |
Y maestrefi gyda phoblogaethau dros 100,000 yw Olathe, Kansas, Independence, Missouri a Lee's Summit, Missouri. Mae gan yr ardal 8,472 milltir sgwâr (21,940 km2) a phoblogaeth o fwy na 2.2 miliwn o bobl; dyma'r ail ardal fetropolitan fwyaf yn Missouri (ar ôl St. Louis) a'r ardal fetropolitan fwyaf yn Kansas.

Ffotograff lloeren o ardal fetropolitan Kansas City. Mae Afon Missouri yn mynd igam-ogam o'r gorllewin i'r dwyrain; mae Afon Kansas, sy'n llai, yn nesau o'r de-orllewin ac yn ymuno â hi yn Kaw Point. Mae Dinas Kansas, Kansas yn union i'r gorllewin o'r lle y mae'r ddwy afon yn cyfarfod ac mae Dinas Kansas, Missouri i'r dwyrain (ac i'r de o Afon Missouri) a North Kansas City, Missouri i'r gogledd o'r afon.