Afon Missouri
Afon sy'n llifo i mewn i Afon Mississippi yn yr Unol Daleithiau yw Afon Missouri. Mae'n tarddu lle mae'r afonydd Madison, Jefferson a Gallatin yn cyfarfod yn nhalaith Montana, ac yn cyrraedd y Mississippi i'r gogledd o St. Louis, Missouri. Mae ei hyd yn 2,341 milltir, ac mae ei dalgylch yn ffurfio chweched ran o holl gyfandir Gogledd America. Hi yw'r ail fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i'r Mississippi. Gelwir hi yn "Big Muddy" a "Dark River" oherwydd y mwd yn ei dyfroedd.
Math | afon |
---|---|
Enwyd ar ôl | Missouria |
Daearyddiaeth | |
Sir | Montana, Gogledd Dakota, De Dakota, Nebraska, Iowa, Missouri, Kansas |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 45.9275°N 111.5081°W, 38.8136°N 90.1197°W |
Aber | Afon Mississippi |
Llednentydd | Afon Little Missouri, Afon Grand, Afon Moreau, Afon Cheyenne, Afon Bad, Afon White, Afon Niobrara, Afon James, Afon Vermillion, Afon Big Sioux, Afon Platte, Afon Kansas, Afon Milk, Afon Yellowstone, Afon Osage, Mosquito Creek, Afon Boyer, Ponca Creek, Perry Creek, Afon Floyd, Afon Little Sioux, Afon Soldier, Afon Jefferson, Afon Marias, Afon Platte, Afon Dearborn, Afon Madison, Afon Cannonball, Afon Gallatin, Afon Roe, Afon Grand, Afon Heart, Afon Musselshell, Afon Knife, Big Muddy Creek, Afon Judith, Afon Sun, Afon Chariton, Arrow Creek, Belt Creek, Afon Blue, Cow Creek, Afon Crooked, Afon Cuivre, Afon Fishing, Afon Gasconade, Afon Lamine, Afon Little Blue, Little Muddy Creek, Afon Loutre, Afon Nodaway, Afon Ocheyedan, Papillion Creek, Afon Poplar, Afon Redwater, Sixteen Mile Creek, Afon Smith, Afon Tarkio, Afon Wolf (Kansas), Afon Nishnabotna, Big Dry Creek (Montana), Auxvasse Creek, Big Berger Creek, Perche Creek |
Dalgylch | 1,371,010 ±1 cilometr sgwâr |
Hyd | 3,726 cilometr |
Arllwysiad | 2,478 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Canyon Ferry Lake |
Yr Ewropeaid cyntaf i weld yr afon oedd y fforwyr Ffrengig Louis Jolliet a Jacques Marquette. Cyhoeddwyd y disgrifiadau cyntaf ohoni gan Étienne de Veniard, Sieur de Bourgmont yn 1713 a 1714. Yn 1795-1797 teithiodd James MacKay a'r Cymro John Evans i fyny'r afon i chwilio am ffordd trwodd i'r Pasiffig, dan nawdd llywodraeth Sbaen. Aeth John Evans ymlaen i dreulio gaeaf gyda llwyth y Mandan, i chwilio gwirionedd y stori eu bod yn siarad Cymraeg ac yn ddisgynyddion ymsefydlwyr Cymreig dan arweiniad Madog ab Owain Gwynedd. Casgliad Evans oedd nadd oedd arwydd o ddylanwad y Gymraeg ar eu hiaith.
Rhwng 1804 a 1806 teithiodd Meriwether Lewis a William Clark i fyny'r afon ar gais Thomas Jefferson, gan orffen y gwaith o ddarganfod cwrs yr afon.