St. Louis, Missouri
Dinas a sir yn nhalaith Missouri, Unol Daleithiau America yw St. Louis. Mae ganddi boblogaeth o 318,069,[1] sy'n ei gwneud yr ail dref fwyaf yn y talaith, ac mae ei harwynebedd yn 171.3 km².[2] Cafodd ei sefydlu (neu ei ymgorffori) yn y flwyddyn 1764.
![]() | |
Math |
dinas fawr, dinas annibynnol, dinas yn yr Unol Daleithiau ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Louis IX ![]() |
| |
Poblogaeth |
318,416 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Lyda Krewson ![]() |
Cylchfa amser |
UTC−06:00, Cylchfa Amser Canolog, UTC−05:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Bologna, Bogor, Brčko, Dún na nGall, Galway, Lyon, Nanjing, Saint-Louis, São Luís, Samara, San Luis Potosí, Stuttgart, Suwa, Szczecin, Wuhan, Yokneam Illit, Swydd Donegal, Georgetown, Rosario ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Missouri ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
171.128084 km² ![]() |
Uwch y môr |
142 ±1 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Mississippi ![]() |
Yn ffinio gyda |
St. Louis County, Madison County, St. Clair County ![]() |
Cyfesurynnau |
38.6167°N 90.2°W ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Lyda Krewson ![]() |
![]() | |

Dewiswyd safle’r ddinas yn y fan lle mae Afon Missouri’n ymuno âg Afon Mississippi, i fod yn safle marchnata crwyn ym 1764 gan Pierre Laclede Liguest ac Auguste Chouteau. Adeiladwyd pentref, wedi enwi ar ôl brenin Louis IX o Ffrainc, ym 1765. Daeth yr ardal yn eiddo i Sbaen ym 1770, wedyn yn ôl i Ffrainc, ac ar ôl Pwrcas Louisiana ym 1803, yn rhan o’r Unol Daleithiau. Erbyn yr 1890au, roedd St Louis yn bedwerydd ymysg dinasoedd yr Unol Daleithiau ar rhan maint. Daeth Ffair y Byd a’r Gemau Olympaidd i’r ddinas ym 1904, ac ymwelodd dros 20 miliwn o bobl.[3]
Symudodd miloedd o bobl duon o daleithiau’r De rhwng y rhyfeloedd byd. Erbyn 1940, poblogaeth y ddinas oedd 800,000, ac erbyn 1950, 856,000. Roedd tiriogaeth y ddinas yn llawn, a symudodd pobl i Sir St Louis. Erbyn 1980, roedd poblogaeth y ddinas wedi syrthio i 450,000, er oedd canol y ddinas yn lle bywiog.. Adeiladwyd stadiwm pêl-fâs Cardinals St Louis ac un arall ar gyfer Rams St Louis, y tîm pêl-droed Americanaidd, ac adeiladwyd rheilffordd Metrolink St Louis.[3]
Gefeilldrefi St. LouisGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Table 1: 2010 Munnicipality Population". 2010 Population (CSV)
|format=
requires|url=
(help). United States Census Bureau, Rhaniad y boblogaeth. 2010-03-24. Unknown parameter|[url=
ignored (help); Missing or empty|url=
(help);|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ Poblogaeth St. Louis, Missouri Archifwyd 2006-08-25 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 22 Mehefin 2010
- ↑ 3.0 3.1 Gwefan y ddinas
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) Gwefan Dinas St. Louis