Ardha Candrasana (Hanner lleuad)
Mae Ardha Chandrasana (Sansgrit: अर्धचन्द्रासन; IAST ardha candrāsana) neu Hanner lleuad[1] yn asana sefyll mewn ioga modern.[2]
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas sefyll |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguDaw enw brodorol yr asana yma o'r geiriau Sansgrit अर्ध ardha sy'n golygu "hanner", a चन्द्र candra sy'n golygu "lleuad", a आसन āsana sy'n golygu "osgo" neu "safle'r corff".[3]
Defnyddiodd Sritattvanidhi o'r 19g yr enw Ardha Chandrasana ar gyfer asana gwahanol, tebyg, sef yr Vrikshasana.[4] Defnyddiodd Swami Yogesvarananda yr enw yn ei Gamau Cyntaf i Ioga Uwch ym 1970 ar gyfer asana tebyg i Kapotasana, Y Glomen.[4] Cyhoeddwyd yr enw modern yn Light on Yoga 1966 BKS Iyengar.[5]
Ymarfer a budd
golyguMae'r asana hwn yn dilyn y Trikonasana (Y Triongl), gan ymestyn i fyny gyda'r goes ôl ac allan gyda'r llaw blaen fel mai dim ond blaenau'r bysedd sy'n aros ar y llawr. Dylai'r iogi ganolbwyntio ar ei law uchaf o ran golwg a meddwl.[6][7] Fodd bynnag, mae Iyengar yn disgrifio'r ystum gyda'r llaw uchaf yn gorffwys ar y glun.[8]
Dywedir fod yr Hanner lleuad yn helpu i gryfhau'r fferau a gwella cydbwysedd.[6]
Amrywiadau
golygu- Parivrtta Ardha Chandrasana (Hanner lleuad tro), lle mae'r corff wedi troi tuag at y goes sy'n sefyll.[9]
- Baddha Parivrtta Ardha Chandrasana (Haner lleuad tro a chlwm), lle mae'r corff wedi troi tuag at y goes sy'n sefyll gyda'r breichiau wedi'u rhwymo o amgylch y goes sy'n sefyll.[10]
Mewn Ioga Sivananda a'i arddulliau deilliadol fel Ysgol Ioga Bihar, asana hanner lleuad tebyg yw Anjaneyasana,[11] asana a ddefnyddir yn y gyfres 'Cyfarch y lleuad' (Chandra Namaskar).[12]
Yn Ioga Bikram, mae'r enw "hanner lleuad" yn cael ei roi i dro dwy goes tra fo'r corff yn sefyll,[13] a elwir mewn man arall yn Indudalasana.[14]
Darllen pellach
golygu- Saraswati, Swami Satyananda (1 Awst 2003). Asana Pranayama Mudra Bandha. Nesma Books India. ISBN 978-81-86336-14-4.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ardha Chandrasana". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-14. Cyrchwyd 2011-04-09.
- ↑ McGilvery, Carole; Mehta, Mira (2002). The encyclopedia of aromatherapy, massage and yoga. Hermes House. t. 247. ISBN 978-1-84309-129-5.
- ↑ Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ 4.0 4.1 Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 82, 90. ISBN 81-7017-389-2.
- ↑ Iyengar, B.K.S. (1979) [1966]. Light on Yoga. Schocken. tt. 74–76. ISBN 0-8052-1031-8.
- ↑ 6.0 6.1 YJ Editors (28 Awst 2007). "Half Moon Pose". Yoga Journal.
- ↑ Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling Kindersley. tt. 30–31.
- ↑ Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. tt. 74–76.
- ↑ "Parivrtta Ardha Chandrasana (Revolved Half Moon Pose)". Fitz-Simon, Witold. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-27. Cyrchwyd 11 Ionawr 2019.
- ↑ "Baddha Parivritta Ardha Chandrasana (Bound Revolved Half Moon Pose)". Yogateket, Witold. Cyrchwyd 11 Mawrth 2019.
- ↑ Lidell, Lucy; The Sivananda Yoga Centre (1983). The Book of Yoga: the complete step-by-step guide. Ebury. tt. 132–133. ISBN 978-0-85223-297-2. OCLC 12457963.
- ↑ Mirsky, Karina. "A Meditative Moon Salutation". Yoga International. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2019.
- ↑ "26 Bikram Yoga Poses". Bikram Yoga Poses Guide. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Indudalasana". Yogapedia. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2019.
Dolenni allanol
golygu- Ioga Journal : Techneg